Camp Llŷr Titus
Iau 21 Ionawr 2016 / Ysgrifennwyd gan 3

Ysgrifennwyd gan Lleucu Jones, Gweinyddwr Swyddfa Tŷ Newydd

ROEDDEM yn hynod falch o glywed fod un o selogion Tŷ Newydd, Llŷr Titus o Frynmawr, Llŷn, wedi derbyn enwebiad haeddiannol yng Ngwobrau Theatr Cymru eleni. ‘Drych’ gan Gwmni’r Frân Wen, oedd ei ddrama gyntaf erioed i gael ei llwyfannu, a cafwyd ymateb annhygoel iddi ar ei thaith o amgylch Cymru y llynedd.

Enwebwyd Llŷr, sydd yn fyfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, ar gyfer gwobr y Dramodydd Gorau yn y Gymraeg. Derbyniodd  actorion ‘Drych’, Bryn Fôn a Gwenno Hodgkins hwythau enwebiadau yng nghategoriau’r Perfformiad Gwryw a Benyw Gorau.  Braf hefyd oedd darllen fod y criw technegol, a fu’n cydlynu’r daith gyfan, i gyd o dan 25 oed! Dipyn o gamp. Cynhelir y seremoni wobrwyo yn Sherman Cymru ar y 30ain o Ionawr.

Lluniodd Llŷr y ddrama ‘Drych’ fel rhan o gynllun datblygu ysgrifenwyr ifanc y cwmni theatr –‘Sgript i Lwyfan’- a hynny o dan arweiniad Aled Jones Williams. Ac ar y 13eg o Chwefror bydd yr ‘hen stejar’ yn holi’r dramodydd ifanc, yma yn Nhŷ Newydd. Bydd y noson, sydd i gychwyn am 6pm, yn dilyn cwrs undydd o dan ofal Aled Jones Williams. Cwrs ysgrifennu drama, sydd wedi profi mor boblogaidd, fel ein bod wedi gorfod trefnu ail gwrs ym mis Mawrth er mwyn plesio pawb! Mae’r noson yn sicr yn argoeli i fod yn un ddifyr ofnadwy, a hynny mewn awyrgylch gartrefol. Mynediad yn £4 ar y drws.  Croeso cynnes i bawb.