Blodau Llachar
Iau 8 Mawrth 2018 / / Ysgrifennwyd gan Mel Perry

Ym mis Awst 2017, lansiodd Llenyddiaeth Cymru gynllun nawdd newydd ar gyfer awduron o’r enw Llên a Lles,  sy’n ffurfio rhan o Llên Pawb | Lit Reach – cynllun ehangach sy’n cysylltu cymunedau â llenyddiaeth. Gwahoddwyd y rheiny sy’n gweithio ym myd llenyddiaeth a’r celfyddydau, ac sydd yn byw yng Nghymru, i ddyfeisio a chyflwyno cyfres o weithdai ysgrifennu creadigol newydd ac arloesol er mwyn annog cyfranogiad ehangach yn y maes.

Mae un o’r gweithdai hynny yn cael ei redeg gan Mel Perry, bardd o Lansteffan a chyd-sylfaenydd write4word, cwmni nid er elw sydd yn cynnal gweithgareddau llenyddol yn y gymuned. I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Merched, 8 Mawrth, mae Mel wedi ysgrifennu blog am y gyfres o weithdai sy’n cael eu cynnal yng Nghaerfyrddin gyda grŵp o ferched sydd wedi goroesi trais yn y cartref. Mae’r blog hefyd yn cynnwys recordiad arbennig o gân gan y merched, yn defnyddio alaw Maya Waldman.

 

Grŵp ar lawr gwlad i gefnogi merched sydd wedi goroesi trais yng Nghaerfyrddin yw Woman Survivors Support Project (WSSP). Maen nhw’n cwrdd yn wythnosol i gefnogi ei gilydd, cynnal gweithgareddau, mynd ar dripiau ac wrth gwrs, am de a thost. Mae’r grŵp yn cael ei gynnal gyda’r nesa peth i ddim cyllid ac yn dibynnu ar roddion a grantiau bychan iawn. Diolch i gynllun Llên a Lles, Llenyddiaeth Cymru, rydym yn gallu gweithio gyda WSSP i gynnal prosiect Blodau Disglair, a fydd yn hybu llesiant, hunan-barch a hunan hyder drwy weithdai ysgrifennu creadigol a chanu.

Fe wnaethon ni ddechrau ein cyfres o chwe sesiwn ym mis Ionawr ac rydym wedi archwilio ysgrifennu mewn lleisiau gwahanol, ymateb i ffotograffau neu linellau o gerddi, creu collage, a defnyddio trosiadau. Enw’r prosiect yw Blodau Disglair gan ein bod yn gobeithio gweld y merched yn tyfu a blodeuo drwy’r gweithgareddau creadigol, gan gydnabod eu cryfder a’u gwytnwch. Y mae’r merched yn sicr yn blodeuo. Wrth i’r wythnosau fynd rhagddynt, rwy’n llawn edmygedd o’u parodrwydd i ymgysylltu, ysgrifennu a rhannu. Yn ystod ein trydydd sesiwn, siaradodd un wraig am ei phrofiad yn cael ei cham-drin fel plentyn, yn yr ysgol, ac yn ei phriodas. Hwn oedd y tro cyntaf iddi siarad fel hyn ers iddi ymuno â’r grŵp flwyddyn yn ôl, ac roedd cefnogaeth y grŵp yn llawn empathi a dim beirniadaeth, yno i’w chynnal.

“Mae’r ail lun yn fy atgoffa o pan oeddwn i’n blentyn, ac nid slap gawn i, ond cweir. Mae llun 3 yn fy atgoffa o’r blodau oedd yn tyfu ar y tŷ o’r blaen, ond ga’th eu tynnu i lawr gan eu bod yn cael eu gweld fel chwyn. Mae llun 4 yn fy atgoffa o’r adar oedd yn arfer dod i’r ardd, roedden nhw’n canu mor dlws, ac yn codi fy nghalon ar ddyddiau gwael.”

Cafodd y merched y cyfle i ymweld â Gerddi Botaneg Cymru yn ystod y pedwerydd sesiwn, a oedd yn amser i gymdeithasu a mwynhau effaith therapiwtig byd natur. Ar ddiwedd y sesiwn fe ddywedon nhw eu bod yn teimlo’n dawel eu meddwl, heddychlon a chryf; roeddent wedi mwynhau gweld y blodau a’r gloÿnnod byw, heb fod dan bwysau a chael amser i brofi byd gwahanol.

Gofynnais iddynt ddewis tri gwrthrych yn y Gerddi ac ysgrifennu sut y gallai pob un ohonynt gynrychioli cyfeillgarwch, hwyl a’r dyfodol. Daeth y gwaith creadigol hwn yn sail i eiriau cân a gyflwynwyd i’r merched yn y sesiwn nesaf. Ymunodd Maya Waldman â ni, sydd yn athrawes llais ac arweinydd côr. Mae’r grŵp wedi canu gyda Maya o’r blaen ac fe ymatebon nhw’n gyflym i’w dull hwyliog ac ymlaciol o greu a dysgu caneuon.

Gan weithio mewn grwpiau bach, defnyddiom ein hoff ddarnau o’r gwaith ar ffrindiau, hwyl a dyfodol i greu geiriau cân. Yna fe roddon ni’r geiriau i gerddoriaeth gan greu cân fach. Fe wnaeth y criw bach a weithiais i â nhw greu’r geiriau:

‘Blossoming flowers,

Getting lost in fun,

Hugged by structure and protection’

Roedd Maya hefyd wedi creu cân wedi ei seilio ar gynnyrch y merched ar ryddid. Fe wnaethon ni ddysgu rhan gyntaf y gwaith hwn yr wythnos hon ac rydyn ni’n gobeithio cael y cyfle i’w berfformio yn y dyfodol. Gellwch ein clywed yn ymarfer yma: ??

Being Free

 

Me myself and I,

Doing what I like.

Talking, sleeping, cleaning, dressing

Me, myself and I

 

To breath, to laugh, to cry,

To enjoy me, now that’s being free

 

Past the walls

Without fear

Do what I want when I want

Not have to ask if its alright

 

Y mae prosiect Blodau Disglair yn sicr yn profi ei werth. Y mae’r merched wedi ennyn hyder i fynegi eu hunain, ac fel y dywedodd un ohonynt: