• Llun:  Un o lythyrau'r cynllun
Cadwyn Heddwch: Gweithdai Siân Northey
Gwe 14 Gorffennaf 2017 / , / Ysgrifennwyd gan Siân Northey

Yn 2016, derbyniodd Llenyddiaeth Cymru grant gan Dreftadaeth y Loteri i gynnal prosiect Cadwyn Heddwch gyda 15 o ysgolion cynradd yng Ngwynedd. Cynhaliwyd y prosiect rhwng hydref 2016 a haf 2017. Nod rhaglen grantiau Treftadaeth y Loteri Rhyfel Byd Cyntaf: Ddoe a Heddiw yw rhoi cyfle i’r gymuned i ddod i ddeall y Rhyfel yn well, i ddarganfod ei storïau yn lleol, ac i edrych ar beth y mae yn ei olygu i ni heddiw.

Gyda chymorth yr awduron nodedig Gwion Hallam, Siân Northey a Manon Steffan Ros, bu disgyblion blwyddyn 5 a 6 yn ymchwilio yn fanwl i hanes unigolion lleol a chwaraeodd ran yn nhreftadaeth y Rhyfel Byd Cyntaf. Ymysg y cymeriadau dan sylw yr oedd milwyr, gwrthwynebwyr cydwybodol, nyrsus ac aelodau o deuluoedd a gafodd eu gadael ar ôl. Wedi i’r gwaith ymchwil ddod i ben, bydd llythyrau â negeseuon heddychlon yn cael eu creu yn llais y cymeriadau hyn a’u gyrru i ysgolion eraill sy’n rhan o’r cynllun.

Ar ddiwedd y cynllun bydd gennym gofnod gwerthfawr o atgofion unigryw a allai fod wedi mynd yn angof fel arall, a bydd y plant wedi cael dysgu am dreftadaeth eu cymunedau lleol. Penllanw’r cynllun fydd arddangosfa o’r holl waith ar stondin Cymry dros Heddwch yn Eisteddfod Genedlaethol Môn yn 2017.

Dyma ychydig o argraffiadau Siân Northey o’r prosiect:

Ychydig iawn o chwerthin sy’n digwydd wrth drafod rhyfel, hyd yn oed efo plant ysgolion cynradd. Ond mae ‘na ambell i un sy’n gallu bod yn ffraeth waeth be fo’r pwnc. Mi oeddwn i’n Ysgol Pentreuchaf yn sôn am Griffith Jones, neu Gito, o Rydygwystl a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn gwneud ymarfer bach syml yn cael y plant i ddychmygu be fyddai’n wahanol petai o wedi cael byw. Mi oeddwn i’n disgwyl atebion tebyg i’r rhai yr oeddwn i wedi’i gael mewn sawl ysgol arall. Pethau fel ‘Fe allai o fod wedi bod yn daid’ neu ‘Mae’n bosib y byddai wedi cael mynd i’r coleg.’ Ond yr hyn ges i y tro hwn, fel bwled, oedd ‘Fysa chi ddim yn fama yn gneud hyn efo ni.’ Gwych de! Mi oeddwn i’n glanna chwerthin.

Ac mi oeddwn i’n agos iawn at ddagrau gyda gallu merch ddeg oed yn Nhrawsfynydd i uniaethu gyda thristwch y Rhyfel Mawr. Dychmygu eu bod yn nyrsys ar faes y gad oedan nhw a phawb yn creu cymeriad eu nyrs arbennig nhw – ei henw, ei chefndir teuluol a phethau eraill oedd yn gofyn am ychydig mwy o ddychymyg. ‘Be ydi’ch cas beth chi ynglŷn â’ch gwaith?’ holais, gan ddisgwyl i’r rhan fwyaf sôn am waed ac am yr amodau byw roedden ni wedi bod yn eu trafod. ‘Pan dw i’n gorfod deud wrth un o’r milwyr nad ydw i’n gallu’i fendio fo.’ Aeddfedrwydd yn de. A phan ‘da chi’n cael ateb fel’na ‘da chi’n gwbod bod y cymeriad dychmygol mae hi’n ei greu’n gymeriad go iawn iddi hi.

A dyna oedd y gobaith gyda’r prosiect Cadwyn Heddwch – y byddai’r plant, trwy ymchwilio i hanes unigolyn o’u hardal, yn dod i ddeall mai pobl o gig a gwaed, pobl gyffredin, oedd y rhain oedd yn rhan o’r rhyfel. Roedd yna fwriad i ddarganfod gwrthwynebydd cydwybodol ym mhob ardal, ac ymchwilio i’w hanes hwy. Yn anffodus, er cael cymorth llawer o bobl o fudiadau heddwch, ni fu hynny’n bosib, a bu rhaid bodloni ar drafod gwrthwynebwyr cydwybodol yn fwy cyffredinol; ond, diolch i staff gwych Archifdy Gwynedd, llwyddwyd i ddarganfod mwy am ddau unigolyn fu’n filwyr ac am y pentrefi unigol yn y cyfnod. Bu plant Chwilog, Abererch, Llangybi a Phentreuchaf yn dysgu mwy am Griffith Jones y ceir ei hanes yn llyfr Harri Parri, Gwn Glân a Beibl Budr ac yn Epil Gwiberod yr Iwnion Jac gan Geraint Jones. Dysgu mwy am Ellis Williams o Drawsfynydd fu plant Trawsfynydd – dyn a dderbyniodd lawdriniaeth arloesol i ail-greu ei wyneb ar ôl iddo gael ei anafu. Daeth ei nai, Garffild Lloyd Lewis, i’r ysgol i siarad efo’r plant a dod a chreiriau, gan gynnwys llythyrau a dyddiaduron ei ddewyrth, efo fo.

Roedd Garffild wrth gwrs yn dychwelyd i’w hen ysgol, a fy hen ysgol innau hefyd, ac roedd yn bleser i’r ddau ohonom ein bod yn adnabod teuluoedd cymaint o’r plant yn y dosbarth – llawer iawn o’n cyd-ddisgyblion wedi aros yn eu cymuned. Ac mi oedd hynny’n galondid yn y bump ysgol – pa mor dda oedd y plant yn adnabod eu hardal, a chymaint o ddiddordeb oedd ganddynt yn ei hanes, ac yn hanes y bobl oedd yn byw yno gan mlynedd yn ôl.

Gallwch ddysgu mwy am y prosiect ar ein blog, a chofiwch fod croeso cynnes i chi alw heibio stondin Cymru dros Heddwch yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn rhwng 4 – 12 Awst i weld arddangosfa o waith y disgyblion. Bydd cyfle arall i weld yr arddangosfa yn ystod diwrnod agored Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ar ddydd Sul 24 Medi rhwng 11.00 am – 4.00 pm.