Cegin Tony: Bhajis Nionod
Iau 16 Tachwedd 2017 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Rhwng pobi bisgedi blasus a pharatoi llond gwlad o fara cartref mae gan Tony, cogydd Tŷ Newydd, storfa anferth o ryseitiau arbennig. Rydym wedi gofyn iddo rannu rhai o’i hoff ryseitiau gyda ni. Bydd rysáit y mis hwn, a holl ryseitiau’r dyfodol, ar gael ar ein blog. Bon appétit!

Bhajis Nionod

Cynhwysion
4 nionyn mawr wedi eu sleisio
Tua 1/3 bag cyffredin o Flawd Gram
1 llond llwy de o Turmeric
1 llond llwy de o Cumin
1 llond llwy de o Bicarb Soda
Powdr chili (yn dibynnu ar eich hoffter o’r blas)
Halen a phupur (yn dibynnu ar eich hoffter o’r blas)
DullCymysgwch yr holl gynhwysion a’i adael i orffwyso am 1 awr. Peidiwch â phoeni os yw’n edrych fel nad oes digon o’r gymysgedd i orchuddio’r nionod, bydd y sudd o’r nionod yn datrys hyn. Cynheswch yr olew mewn sosban ddofn. Cyn i chi ddechrau coginio, cymysgwch 2 lond llwy de o sudd lemwn i’r gymysgedd. Dylai’r gymysgedd ddisgyn oddi ar y llwy fel cymysgedd cacen. Os yw’n sych, ychwanegwch fwy o sudd lemwn. Gollyngwch lond llwy ffwrdd o’r gymysgedd i’r olew i’w goginio. Cofiwch ei droi er mwyn coginio’r ochor arall hefyd. Os yw’r olew yn rhy boeth mae’n bosib na fydd y canol yn coginio, ond mi allwch eu rhoi yn y popty petai hynny’n digwydd.