Cwrs Sgriptio yn Nhŷ Newydd
Maw 4 Hydref 2016 / Ysgrifennwyd gan Mared Llywelyn

Ar benwythnos 24 – 25 Medi 2016 cynhaliwyd cwrs sgriptio yn Nhŷ Newydd, mewn cydweithrediad â’r Theatr Genedlaethol. Dyma flog gan un o fynychwyr y cwrs, Mared Llyewelyn o Forfa Nefyn. Mwynhewch!

 

Wedi deffro ychydig bach yn hwyr fore Sadwrn cyrhaeddais Llanystumdwy ychydig bach yn fflyshd, a fy ngwallt i chydig bach yn flêr. Ond wrth ddreifio fyny’r lôn goedwigaidd a gweld drws gwyrddlas Tŷ Newydd, ymlaciais yn syth. Rydach chi’n anghofio am y byd tu allan a mwynhau encilio i fyd unigryw Tŷ Newydd.

Heblaw am y lletygarwch groesawgar a chlud, roeddem yn hynod ffodus o gael Aled Jones Williams a’r cyfarwyddwr Sarah Bickerton ar ran y Theatr Genedlaethol i’n rhoi ar ben ffordd.

Wedi cael amser i ddod i adnabod ein gilydd drwy ambell i gêm o dan arweiniad Sarah, bu rhaid bwrw iddi’n syth wedyn gydag ymarfer gan Aled. Roedd yn rhaid dychmygu’r llwyfan, ac ymateb i ddisgrifiadau a darluniau gan Aled. Yr her oedd i ddychymygu’r llwyfan a symud o ddelwedd i ddelwedd a bydda deialog, llinyn storїol a chymeriadau yn esgor ar hynny ac yn ein harwain i gael egin drama.

Yr hyn oedd yn braf oedd bod rhywun yn cael y rhyddid i sgwennu, hel syniadau, arbrofi gyda deialog fel ag yr oedd rhywun eisiau. Gan fod ein bywyda mor brysur anaml y cawn amser i stopio, a cael llonydd i feddwl am syniadau newydd. Roedd Aled a Sarah wrth law i ateb unrhyw gwestiynnau, a braf ar y nos Sadwrn oedd cael sgwrs gyffredinol am fyd y theatr ac am y pethau sydd yn ein hysbrydoli.

Cyn ffarwelio â phawb ar ôl clamp o ginio blasus bnawn Sul, cafom amser yn ystod y bore i drafod ein gwaith a chael darlleniad o’r sgriptiau. Roedd fy syniad gwreiddiol wedi newid, felly gwerthfawr oedd y sylwadau gan Aled, Sarah a gweddill i criw am y datblygiadau newydd. Er mor anodd yw rhannu eich gwaith, mae llygaid ffres yn cynnig persbectif newydd.

Byddwn wir yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn sgwennu i’r theatr i gymryd mantais o gwrs o’i fath yn y dyfodol. Boed yn sgwennwyr sydd â phrofiad neu sgwennwyr sy’n mentro am y tro cyntaf. Yn fwy na dim, mae’n andros o hwyl.

Tan y tro nesaf, Tŷ Newydd!

Mared Llywelyn