Cystadleuaeth Roald Dahl
Iau 6 Hydref 2016 / / Ysgrifennwyd gan Miriam Williams
Yn galw’r gwlithod gwael a gwachul! Mae cystadleuaeth REVOLTING RHYMERS ROALD DAHL nawr ar agor!

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 21 Hydref

Mae Llenyddiaeth Cymru yn hynod falch o fod yn bartneriaid yn y gystadleuaeth newydd sbon yma, rhan o ddathliadau estynedig canmlwyddiant Roald Dahl. Mae Roald Dahl yn adnabyddus drwy’r byd am ei gymeriadau gwallgof a’i straeon chwedlonol, felly beth am roi cynnig ar ysgrifennu cerdd ffiaidd dy hunan?

Mae’r gystadleuaeth yn agored i bob disgybl ysgol cynradd. Sgwenna dy gerdd mwyaf seimllyd, ffiaidd a doniol yn Gymraeg neu’n Saesneg am y cyfle i ennill gwobrau anhygoel megis iPad mini, gwobrau i dy ysgol, a hyd yn oes cyfle i dy gerdd gael ei chyhoeddi mewn eLyfr.

Nid ni yn unig sydd am eich gweld yn cystadlu. Oh, na! Mae’r cerddor a’r awdur Tom Fletcher yn beirniadu’r cerddi Saesneg a neb llai nag Anni Llŷn, Bardd Plant Cymru, yn beirniadu’r categori Cymraeg. Maent yn aros yn eiddgar i ddarllen a beirniadu eich cerddi ffiaidd ffrympiog! Mae gennych tan hanner nos dydd Gwener 21 Hydref i gystadlu.

Bydd y cerddi’n cael eu beirniadu yn seiliedig ar y meini prawf yma:

  • Rhaid iddynt odli
  • Rhaid iddynt fod rhwng 4 – 30 llinell
  • Rhaid iddynt gynnwys o leiaf un cymeriad Roald Dahl, ac mae angen iddynt fod â lle amlwg yn y gerdd
  • Rhaid iddynt fod yn ddoniol!
  • Rhaid iddynt hefyd fod yn hollol ffiaidd!

I gyflwyno cerdd, cer i http://www.revoltingrhymers.com/ ble galli gyflwyno yn Gymraeg neu’n Saesneg.