• Llun:  Catrin Gwilym
Dathliadau Gŵyl Gwanwyn yn Nhŷ Newydd
Iau 2 Mehefin 2016 / / Ysgrifennwyd gan Gwen Lasarus James

Gweithdy Llên Meicro gyda Manon Steffan Ros

Daeth deg o ferched i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ar 8 Mai 2016 i gymryd rhan mewn gweithdy llên meicro gyda Manon Steffan Ros fel rhan o ddathliadau Gŵyl Gwanwyn. Roedd rhai yn nerfus ac eraill yn hyderus, ond pawb yn eiddgar i ddysgu mwy am lên meicro dan arweiniad yr awdur poblogaidd. Gyda’r haul yn tywynnu, arogl coffi’n llenwi’r tŷ a phawb yn brysur yn sgriblo doedd hi’n fawr o dro cyn i’r awen greadigol gydio. Cafodd bawb lond plât o fwyd gan Tony, y cogydd, a darllenwyd ychydig o weithiau pawb cyn ffarwelio.

Roedd hwn yn gyfle unigryw i gynnig gweithdy arbennig ar gyfer merched hŷn, er mwyn eu galluogi i ysgrifennu mewn awyrgylch diogel a hamddenol yn rhad ac am ddim. Dyna hanfod Gwanwyn, yr ŵyl sydd yn meithrin creadigrwydd mewn pobl dros 50 mlwydd oed.

Diolch i’r criw, i Manon ac i Gwanwyn am ddiwrnod difyr. Dyma ddarn o lên meicro gan Siân Eleri Roberts o Drefor.

 

Atynfa Tŷ Newydd

Gwynder gwâr yn denu.

Ond mae ’na weoedd i’w hymlid, teulu i’w tendio, gardd i’w harddu, Kilimanjaro i’w smwddio, gŵr i’w fwydo, cypyrddau bwyd i’w llenwi, cypyrddau dillad i’w gwagio, plant i gadw nabod â nhw, perthnasau pell i golli pen rheswm gyda nhw, taclau i’w tacluso, bore coffi i’w borthi, llwch i’w sugno, bathrwms i’w sgleinio, sanau strae i’w corlannu. A beth bynnag, fedra i ddim sgwennu.

Ond y gwynder gwâr enillodd.

Siân Eleri Roberts

 

Lansio llyfr tra gwahanol yn Nhŷ Newydd

Daeth criw gwahanol at ei gilydd yn Nhŷ Newydd yn ôl ym mis Chwefror 2016 fel rhan o Gwanwyn, gŵyl genedlaethol Age Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, a gynhelir ledled Cymru bob blwyddyn i ddathlu creadigrwydd ymhlith pobl hŷn. Prosiect ar y cyd rhwng Tŷ Newydd, Cyngor Gwynedd a Chelfyddydau Anableddau Cymru oedd hwn, a gafodd ei gyllido gan Gwanwyn. Y nod oedd galluogi pobl hŷn i ganfod creadigrwydd a magu’r sgiliau angenrheidiol i gyflwyno eu gwaith creadigol.

Daeth dau griw ynghyd i ysgrifennu straeon a cherddi gyda chymorth ac arweiniad dau diwtor. Ysbrydolwyd y criw Cymraeg gan Sian Northey, yr awdur, sgriptiwr a’r beirniad llenyddol. Nid criw Siân yn unig oedd yn ysgrifennu’n ddiwyd y diwrnod hwnnw gan fod criw arall yn rhannu syniadau ac yn cael eu hysbrydoli i ysgrifennu’n greadigol yn Saesneg yng nghwmni Fiona Owen, y bardd a’r cerddor o Ynys Môn.

Canlyniad y ddau weithdy oedd campwaith o gerddi a straeon gan yr awduron, a pha ffordd well i ddathlu llwyddiant y gweithdai na thrwy gyhoeddi llyfryn o’u gwaith. Bydd y llyfryn yn cael ei lansio yng Nghanolfan Tŷ Newydd yn Llanystumdwy ar ddydd Sadwrn 11 Mehefin 2016.