Dathlu Wythnos Siopau Llyfrau Annibynnol
Llu 6 Mehefin 2016 / Ysgrifennwyd gan Miriam Williams

Ar ddydd Sadwrn 18 Mehefin  bydd grwpiau ac unigolion drwy’r wlad yn dathlu wythnos siopau llyfrau annibynnol. Ynghanol bwrlwm yr wythnos, bydd Carol Ann Duffy, Gillian Clarke, Jackie Kay, Imtiaz Dharker a’r cerddor John Sampson yn gwneud taith 14 noson drwy Brydain mewn cydweithrediad â siopau llyfrau annibynnol.

Ymysg nifer o leoliadau eraill, bydd taith Shore to Shore yn ymweld â Galeri Caernarfon ar nos Sul 26 Mehefin ac yn croesawu Ifor ap Glyn fel gwestai arbennig. Cynhelir y digwyddiad mewn partneriaeth â siop lyfrau Palas Print, a bydd cyfle i glywed gwaith Bardd Cenedlaethol newydd Cymru yn ogystal â chyfle i fwynhau barddoniaeth gan Carol Ann Duffy a’i ffrindiau.

Er mwyn ddathlu’r daith, mae’r cyhoeddwr Picador wedi lansio cystadleuaeth farddoniaeth ym mhob un o’r 14 lleoliad. Y cyfan sydd angen ei wneud ydi ysgrifennu cerdd am gymuned a’i anfon i shoretoshore@macmillan.com cyn 26 Mehefin. Gallwch ysgrifennu yn y Gymraeg neu’r Saesneg a bydd beirniaid lleol yn cael y dasg o ganfod ennillydd.

Cyhoeddir yn enillwyr ar wefan Carol Ann Duffy and Friends yn ogystal â chylchlythyr barddoniaeth Picador. Bydd yr enillwyr yn derbyn casgliad o lyfrau barddoniaeth gan y cyhoeddwr.

Cofiwch fod modd archebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad drwy wefan Galeri.

Pob hwyl ar y barddoni!