Diwrnod Agored Tŷ Newydd: Dydd Sul 11 Medi 2016
Mer 20 Gorffennaf 2016 / Ysgrifennwyd gan Miriam

Ydych chi wedi clywed am Ŵyl Drysau Agored Cadw? Cyfle i bobl leol ac ymwelwyr archwilio trysorau cudd diwylliant a hanes Cymru ydyw, ac unwaith eto eleni bydd drws glas Tŷ Newydd ar agor fel rhan o’r ŵyl.

Mae Tŷ Newydd yn adeilad rhestredig Gradd II*, ac fe’i hadeiladwyd yn wreiddiol yn y 15G fel tŷ ffrâm bren. Cafodd y tŷ ei ailwampio yn dŷ tri llawr ag wyneb Sioraidd yng nghanol y 1700au. Atgyweiriwyd ac adnewyddwyd y tŷ i gyd yn y 1940au cynnar gan bensaer enwog Portmeirion, Clough Williams-Ellis, ar ran y cyn Brif Weinidog David Lloyd George a fu’n byw yma hyd nes ei farwolaeth yn 1945.

Bydd drysau Tŷ Newydd ar agor i’r cyhoedd rhwng 11.00 am a 4.00 pm ar ddydd Sul 11 Medi. Bydd cyfle i chi grwydro o amgylch y tŷ arbennig hwn a chael ychydig mwy o hanes y tŷ a’i breswylwyr. Pe bydd y tywydd yn braf, bydd cyfle i chi fynd o amgylch y gerddi a mwynhau paned a chacen yn yr ardd. Bydd Amgueddfa Lloyd George hefyd yn agor eu drysau, a bydd modd i chi dreulio diwrnod cyfan yn cael eich ymdrwytho yn hanes y cyn Brif Weinidog o Lanystumdwy.

Bydd aelodau o staff wrth law i gynnig gwybodaeth am y safle a bydd te, cacen a lobsgóws ar gael i ymwelwyr drwy’r dydd.

Cliciwch yma am wybodaeth ar sut i gyrraedd Tŷ Newydd.

Ar gyfer mwy o wybodaeth am Ŵyl Drysau Agored Cadw cliciwch yma.

download