• Llun:  Miriam Elin Jones
Egni newydd i ddychwelyd at fy ngwaith…
Iau 5 Ionawr 2017 / Ysgrifennwyd gan Miriam Elin Jones

Dyma hanes un o breswylwyr diweddaraf Tŷ Newydd, Miriam Elin Jones, a fu yma ar Gwrs Olwen cyn y Nadolig. Postiwyd y darn yn wreiddiol ar flog personol Miriam.

 

Rwyf newydd dychwelyd o benwythnos anhygoel arall yn Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy, ac er fy mod wedi blino’n lân (dyw darllen Sonedau i Janice tan oriau mân y bore byth yn syniad da…) mae gennyf egni newydd i ddychwelyd at fy ngwaith ac at fy ysgrifennu creadigol.

Afraid dweud, roedd cael dwtsh o hissy fit (y peth mwyaf poblogaidd dwi ERIOED wedi ei bostio ar y we – a diolch i bob darllenydd a dilynwr newydd) cyn cyrraedd yno ar y nos Wener wedi arwain at lot o drafodaethau tanllyd. Gyda rhai yn cytuno ac eraill yn anghytuno, wrth reswm, ond fe’n rhyddhawyd ni i gyd i gwestiynu ac i herio’r hyn rydym wedi ei dderbyn dros y blynyddoedd sy’n rhan o ‘draddodiad’, ac hefyd i drafod ac ystyried posibiliadau am lwyfannau newydd i lenyddiaeth yn y Gymraeg. Dyna strop y dylwn fod wedi gael FLYNYDDOEDD yn ôl, ac mae e wir wedi rhoi hwb i’m hyder ac wedi fy rhyddhau yn greadigol (a dwi’n gwybod bod hynny’n sylw hynod o pretentious!) o gael gymaint o gefnogaeth. Mae lle i mwy nag un llais llenyddol yng Nghymru.

Felly, hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Ifor ap Glyn ac Ian Rowlands am eu harweiniad yn ystod y cwrs – mae pob un ohonom wedi gadael gydag egin-drama, cerdd fach a phwt o lên meicro, ynghyd ag ysbrydoliaeth i fwrw ati eto. Diolchaf hefyd, i bwy sydd yn fy marn i, yn ffurfio’r pobl pwysicaf ar y cwrs, sef fy nghyd-fynychwyr. Rwyf wedi bod ar y cwrs yn flynyddol ers pedair mlynedd, ac mae pob un o’r cyrsiau, nid yn unig wedi bod yn sbardun i waith newydd, ond hefyd yn gyfle i gyfarfod eraill sy’n ‘sgrifennu – peth prin iawn o ‘mhrofiad i – a gwneud ffrindiau oes.

Er nad ydw i erioed wedi cyrraedd y brig – still bitter, haha! – ac er bod yr elfen gystadleuol wedi bod yn waith eithriadol o galed ar adegau, rwy’n hynod ddiolchgar i fudiad yr Urdd am drefnu’r cyrsiau blynyddol hyn. Drwy gyd-ddigwyddiad, Ifor ap Glyn oedd un o’r tiwtoriaid ar fy nghwrs cyntaf yno, ac wrth i’r cyfnod hwn, a minnau’n gwarter canrif oed (eek), ddirwyn i ben, roedd rhyw fath o gwlwm taclus wedi ei glymu wrth iddo fod yn un o’r tiwtoriaid ar fy nghwrs olaf hefyd.

Fodd bynnag, er taw hwn oedd fy nghwrs olaf gyda’r Urdd, nid dyma – no way! – fydd fy nghwrs olaf yn Nhŷ Newydd.