Enillydd Cystadleuaeth Gwobr Farddoniaeth Ledbury: Jonathan Greenhause
Gwe 3 Tachwedd 2017 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Bob blwyddyn, mae Tŷ Newydd yn noddi’r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth Gwobr Farddoniaeth Gŵyl Farddoniaeth Ledbury. Eleni, y prif enillydd oedd Jonathan Greenhause gyda’i gerdd The fire escape, no longer weighed down. Gallwch ddarllen y datganiad yn llawn, ynghyd â’r cerddi buddugol ar wefan yr ŵyl: https://www.poetry-festival.co.uk/

Mae Jonathan Greenhause yn gweithio fel cyfieithydd Sbaeneg mewn cwrt, ac yn byw yn Ninas Jersey, New Jersey gyda’i wraig a’i ddau fab. Enillodd Gystadleuaeth Prism Review yn 2017 , ac mae ei farddoniaeth wedi (neu ar fin) ymddangos yn The Dark Horse, The Interpreter’s House, New Walk Magazine, Popshot, Pushing Out the Boat, The Rialto, a Stand, ymysg eraill. Cyhoeddir ei ail gasgliad o gerddi, Secret Traits of Everyday Things, gan Encircle Publications ym mis Medi, ac mae mwy o wybodaeth i’w ganfod ar ei wefan www.jonathangreenhause.com

 

Dyma ofyn ambell gwestiwn i Jonathan i ddod i’w adnabod yn well cyn ei daith dros y dŵr o’r UDA i Gymru.

 

Beth yw dy hoff lyfr?

The Plague gan Albert Camus.

Pe allet ddewis unrhyw dri awdur i gyd-swpera â nhw (boed fyw neu farw), pwy fydden nhw?

Virginia Woolf, Enrique González Martinez, a Walt Whitman.

Beth sy’n ysbrydoli dy gerddi?

Bod yn fyw. Defnyddio hen brofiadau fel deunydd. Dod i delerau â pha mor erchyll y gall rhai pethau fod, a throi hynny yn egni positif ar y dudalen.

Pe allet fod yn unrhyw gymeriad o lyfr, pwy fyddai a pham? 

Falle Yossarian o Catch-22? Cymeriad digri sy’n sownd mewn byd abswrd â’i ryfel di-ddiwedd sy’n drysu ein ymwybyddiaeth o amser, lle’r ydym mewn perygl cyson o gael ein gwasgu gan rymoedd mwy na ni ein hunain…

Beth mae ennill y gystadleuaeth yma’n ei olygu i chi? 

Mae’n golygu fy mod yn gallu ymateb yn fwy balch pan fyddaf yn dweud wrth bobl mai bardd ydw i. Dyma’r wobr fawr fwyaf i mi ei hennill, ac felly mae’n amlwg yn gwneud i mi deimlo fel fy mod yn gwneud rhywbeth yn iawn, a fod y miloedd o oriau ‘dw i wedi eu treulio yn sgwennu ac yn ail-sgwennu barddoniaeth a’i yrru’n obsesiynol i gael ei adolygu neu ei feirniadu mewn cystadlaethau yn gwneud rhyw fath o synnwyr wedi’r cwbl. Hefyd, mae’n benodol arbennig i mi fy mod wedi ennill cystadleuaeth ym Mhrydain, gan fod y Prydeinwyr ‘ma’n gwybod ei stwff o ran yr iaith Saesneg.

Wyt ti’n meddwl y doi dros Fôr yr Iwerydd i’n gweld ni?

Yn sicr! Dwi wedi gwirioni â’r syniad o dreulio wythnos yn gweithio ar grefft, ac yn trafod â beirdd eraill, ac mae wedi bod yn 25 mlynedd ers i mi ymweld â Chymru ddiweddaf. Alla i ddim aros!