• Llun:  Richard Outram
Gweithdai am ddim i ysgolion Gwynedd: cyntaf i’r felin!
Iau 9 Mehefin 2016 / / Ysgrifennwyd gan Lleucu Jones

Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnig gweithdai arbennig am y Rhyfel Byd Cyntaf i’r 15 ysgol gynradd gyntaf yng Ngwynedd fydd yn cysylltu i gofrestru.

Bydd y cynllun Cadwyn Heddwch yn cyfuno ysgrifennu creadigol gydag ymchwil hanesyddol, a’r nod ar ddiwedd y cynllun yw uno ysgolion cynradd Gwynedd trwy greu cadwyn o lythyrau yn hyrwyddo heddwch.

Ros, Manon Steffan
Manon Steffan Ros, un o’r awduron.

Gyda chymorth Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, a’r awduron nodedig Siân Northey a Manon Steffan Ros, bydd disgyblion blwyddyn 5 a 6 yn ymchwilio yn fanwl i hanes unigolion lleol a chwaraeodd ran yn nhreftadaeth y Rhyfel Byd Cyntaf. Gall y cymeriadau hyn fod yn filwyr, yn wrthwynebwyr cydwybodol, yn nyrsus, neu yn aelodau o deulu a gafodd eu gadael ar ôl. Wedi’r gwaith ymchwil, bydd llythyrau â negeseuon heddychlon yn cael eu creu yn llais y cymeriadau hyn a’u gyrru i ysgolion eraill sy’n rhan o’r cynllun.

Wedi i’r cynllun ddod i ben, bydd gennym gofnod gwerthfawr o atgofion unigryw a allai fod wedi mynd yn angof fel arall. Byddwn hefyd wedi annog plant i ddysgu am dreftadaeth eu cymunedau lleol. Penllanw’r cynllun fydd arddangosfa o’r holl waith ar stondin Cymry dros Heddwch yn Eisteddfod Genedlaethol Môn yn 2017.

Ifor ap Glyn
Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru fydd yn cymryd rhan yng nghynllun Cadwyn Heddwch. Llun gan Emyr Llewelyn Jones

Bydd cytuno i fod yn rhan o’r cynllun yn golygu:

–      Derbyn ymweliad i’r ysgol gan un o’r tri awdur ar ddau achlysur gwahanol i dderbyn gweithdai ar hanes y Rhyfel Byd Cyntaf; sut i fynd ati i ymchwilio yn defnyddio’r we, holi pobl y pentref ac ysgrifennu at bapurau bro ac ati; a sut i ysgrifennu llythyr creadigol

–      Trefnu gwibdaith ymchwil gyda’ch awdur i amgueddfa, archifdy, neu lecyn o bwys hanesyddol lleol o’ch dewis

–      Gwneud gwaith ymchwil trylwyr i un unigolyn hanesyddol yn y gymuned, a chreu portffolio deniadol o waith, yn cynnwys ysgrifau a gwaith celf, sy’n cynnwys gwybodaeth amdanynt; cyfrannu’r wybodaeth i Gasgliad y Werin a chreu llythyr heddwch yn llais y cymeriad.

Llenyddiaeth Cymru fydd yn gyfrifol am yr holl gostau fydd ynghlwm â’r gwaith, yn cynnwys trafnidiaeth i’r amgueddfa neu archifdy, a chostau’r awduron.

Rydym yn estyn gwahoddiad i holl ysgolion cynradd y Sir i ymgeisio i fod yn rhan o’r cynllun unigryw hwn, ond does ond lle i 15 ysgol. Byddwn felly yn derbyn enwau ar sail y cyntaf i’r felin.

Er mwyn datgan eich diddordeb, neu am ragor o wybodaeth, gallwch e-bostio tynewydd@llenyddiaethcymru.org neu ffonio 01766 522 811.

 

Buom yn ddigon ffodus i dderbyn grant gan Dreftadaeth y Loteri i gynnal ein prosiect, a gaiff ei gynnal o dymor yr hydref eleni tan haf 2017. Nod rhaglen grantiau Treftadaeth y Loteri Rhyfel Byd Cyntaf: Ddoe a Heddiw yw rhoi cyfle i’r gymuned i ddod i ddeall y Rhyfel yn well, i ddarganfod ei storïau yn lleol, ac i edrych ar beth y mae yn ei olygu i ni heddiw.

Loteri