• Llun:  Disgyblion Ysgol Botwnnog
Gweithdai Cynganeddu Karen Owen
Iau 1 Mehefin 2017 / / Ysgrifennwyd gan Miriam

Ym mis Hydref 2016 derbyniodd Llenyddiaeth Cymru arian gan Gronfa Arbrofol Eryri (CAE) drwy law’r Parc Cenedlaethol i gynnal gweithdai cynganeddu mewn ysgolion uwchradd. Derbyniwyd ceisiadau gan ysgolion ar hyd a lled y fro am weithdai hanner diwrnod gan y bardd a’r athro barddol profiadol, Karen Owen. 

Bwriad y prosiect oedd cyflwyno’r gynghanedd a’r mesurau caeth i ddisgyblion uwchradd, yn ogystal â rhoi cyfle i Dŷ Newydd sgowtio am dalent a gwir ddiddordeb yn y gynghanedd ymysg pobl ifainc, gyda’r gobaith o greu darpariaeth sefydlog yn y maes i unigolion brwdfrydig ar ôl y sesiynau blasu hyn.

Ym mis Chwefror eleni, aeth Karen draw i’r Bala (na, nid mewn cwch banana), i ymweld â chriw o ddisgyblion blwyddyn 9 Ysgol y Berwyn. Lluniwyd cywydd yn sôn am ‘un bore ar y Berwyn’ a wnaed yn ffilm fer gan y disgyblion.

Gallwch wylio’r fideo yma: Cerdd y Berwyn

Bu criw o ddisgyblion Ysgol Dyffryn Ogwen hefyd yn cynganeddu’n frwd a lluniwyd cywydd arbennig arall at y casgliad.

Disgyblion Ysgol Dyffryn Ogwen
Llun: Karen Owen

Tro lleisiau Llŷn oedd cynganeddu ym mis Mai, a drychwch criw mawr oedd wrthi draw yn Ysgol Botwnnog. Digon o awen greadigol i lunio awdl, tybed?

Disgyblion Ysgol Botwnnog
Disgyblion Ysgol Botwnnog

Meddai Awen Griffith, Pennaeth Adran y Gymraeg, Ysgol Botwnnog: “Cafodd y disgyblion fwynhad mawr yng nghwmni hawddgar Karen Owen ar brynhawn Dydd Gwener braf! Aed ati mewn dull hwyliog a hamddenol i greu cynganeddion yn defnyddio eu henwau megis ‘dwy gacan i Rhiannon.’ Roedd brwdfrydedd Karen yn heintus a’i hanogaeth o gynigion y disgyblion yn rhoi’r hyder iddynt barhau i greu’r cynganeddion. Yn sicr, taniodd Karen frwdfrydedd yn y disgyblion a gwelwyd ambell addewid o gynganeddwyr y dyfodol!”

Mae ambell i weithdy ar ôl cyn diwedd y tymor felly gobeithio y gallwn rannu mwy o weithiau cynganeddol y disgyblion yn fuan.

Diolch o galon i Gronfa Arbrofol Eryri am y grant, i Karen am y gweithdai ac i’r disgyblion am eu brwdfrydedd. Am y tro, daliwch ati i gynganeddu, bobl ifanc…!