• Llun:  Gwen Lasarus
Gwen a’r Gwersi Ioga
Maw 14 Mehefin 2016 / Ysgrifennwyd gan Miriam

Ar ddydd Mawrth 14 Mehefin, roedd hi’n tywallt y glaw yn Nhŷ Newydd. Roedd hi’n anodd iawn gweithio drwy sŵn y glaw felly diflannodd ein Swyddog Datblygu Cynulleidfa, Gwen Lasarus, am awr neu ddwy i gymryd rhan yn y cwrs preswyl sy’n cael ei gynnal yma’r wythnos hon. Mae’n gwrs gwahanol i’r arfer – cwrs Ioga ac Ysgrifennu dan ofal y tiwtor Siân Melangell Dafydd. Dyma argraffiadau Gwen o’r sesiwn.

20160614_123808

Cefais ymuno mewn gwers ioga yn Nhŷ Newydd bore ‘ma, a braf iawn oedd cael gadael y sgrin a mynd ar y mat am awr a hanner. Cawsom ddilyn y tiwtor, Siân, drwy’r asanas, sef ystumiau yoga amrywiol, ac roedd ei chyfarwyddiadau hi’n glir a chryno. Ro’n i’n teimlo’r gwres yn fy nghorff a’r cyhyrau’n crynu tra roedd y glaw yn curo ar wydr y tŷ haul.

Tri chwarter ffordd drwy’r sesiwn ro’n i’n dyheu am baned, ond yn annog fy hun i ganolbwyntio ar y symudiadau, ac anadlu allan yn araf.

Ges i baned wedyn…ar ôl ymlacio!

20160614_124701