Gŵyl Farddoniaeth Tŷ Newydd
Gwe 6 Ionawr 2017 / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Mae’r ŵyl boblogaidd yn dychwelyd i Lanystumdwy yn 2017 yn ystod penwythnos 17 – 19 Chwefror. Dewch yn llu i’ch diddanu gan feirdd o bob cwr o Gymru.

Bydd llety a lluniaeth ar gael yn Nhŷ Newydd yn ystod y penwythnos, a digon o gyfle i ymweld â’r Plu ar nosweithiau Gwener a Sadwrn.

 

Amserlen yr Ŵyl:

Nos Wener 17 Chwefror / Tafarn Y Plu, Llanystumdwy / 7.30 pm

Noson Cerdd a Chân yng nghwmni Gwilym Bowen Rhys, Iestyn Tyne ac eraill

 

Dydd Sadwrn 18 Chwefror / Tŷ Newydd, Llanystumdwy

11.00 am – 1.00 pm / Sesiynau blasu’r gynghanedd gyda Twm Morys ac Aneirin Karadog (addas i ddechreuwyr pur a’r rheiny â pheth afael ar y gynghanedd)

2.00 pm – 2.45 pm / Prifeirdd yn y Gadair / Myrddin ap Dafydd fydd yn holi Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury am gystadleuaeth Y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni 2016 a’u menter newydd: y podlediad Clera

2.45 pm – 3.15 pm / Prifeirdd yn y Gadair / Myrddin ap Dafydd fydd yn holi Elinor Gwynn a Marged Tudur am gystadleuaeth Y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni 2016

3.30 pm – 4.30 pm / 2016: Blwyddyn i’w chofio? yng nghwmni Karen Owen a beirdd eraill / Cyfle i ymateb yn greadigol i’r flwyddyn a fu, boed ar ffurf cerdd, cân neu ddawns fynegianol…

4.30 pm – 5.00 pm / Pyncio / Sesiwn o drin, trafod a dadlau ar bynciau barddonol o bob math yng nghwmni’r bwystfil barddonol a elwir yn Aneurig

 

Nos Sadwrn 18 Chwefror / Tŷ Newydd, Llanystumdwy / 7.00 pm

Cwis yr Ŵyl dan ofal y cwis feistr, Gruffudd Antur

 

Bore Sul 19 Chwefror / Tŷ Newydd, Llanystumdwy

Taith gerdded lenyddol dan arweiniad Twm Morys

 

I archebu llety, cysylltwch â Thŷ Newydd: 01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org