Gŵyl Hanes Cymru i Blant: Cyhoeddi Awduron
Iau 8 Mehefin 2017 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a Cadw, bu Gŵyl Hanes Cymru i Blant yn chwilio am 12 o awduron ifanc, rhwng 16-25 oed, i ymgymryd â’r her o ysgrifennu dramâu byrion i blant.

Mae enwau 11 o’r awduron bellach wedi eu cyhoeddi, a bydd y 12fed yn cael ei ddewis o blith prif enillwyr llenyddol Eisteddfod yr Urdd 2017:

Gwynfor Dafydd

Iestyn Wyn

Elan Grug Muse

Sion Emyr

Sian Elin Williams

Lois Llywelyn Williams

Mared Roberts

Mirain Alaw Jones

Mari Elen Jones

Ceris Mair James

Mared Llywelyn Williams

Bydd y 12 ddrama newydd yn cyflwyno hanes y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru, ac yn cael eu llwyfannu fel rhan o Ŵyl Hanes Cymru i Blant 2018. Yn ystod yr ŵyl bydd y sioeau, a fydd yn cynrychioli diwydiannau megis copr, llechi, glo, tun, haearn a gwlân, yn cael eu llwyfannu mewn lleoliadau treftadaeth dros Gymru gyfan.

Bydd cyfle i’r 12 awdur ifanc fynychu gweithdy penwythnos yn Nhŷ Newydd ym mis Medi 2017 yng nghwmni Anni Llŷn. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am y gweithdy maes o law.

Am ragor o wybodaeth am y prosiect, ewch i wefan www.gwylhanes.cymru