Gŵyl Hanes Cymru i Blant: Lois Llywelyn Williams
Gwe 8 Medi 2017 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Bydd 12 o awduron ifanc yn mentro i Dŷ Newydd y penwythnos hwn ar gyfer cwrs yng nghwmni Anni Llŷn fel rhan o brosiect Gŵyl Hanes Cymru i Blant 2018, mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a Cadw.

Lois Llywelyn Williams yw un o’r 12 awdur. Mae Lois yn fyfyrwraig yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Fel un sydd wedi’i magu ym Morfa Nefyn, mae ganddi ddiddordeb mawr yn y diwydiant morwrol a llechi, ond mae hefyd yn awyddus i ymestyn ei phrofiad a’i gwybodaeth i ardaloedd a diwydiannu eraill yng Nghymru. Enillodd Lois y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Yr Urdd Sir y Fflint 2016.

Er mwyn i ni ddod i’w hadnabod hi’n well, mae Lois wedi ateb ein holiadur pum munud:

Beth yw dy berthynas di â Thŷ Newydd? A’i dyma fydd y tro cyntaf i ti ymweld â ni?

Rydw i wedi bod ar ambell gwrs yn Nhŷ Newydd o’r blaen, fel Cwrs Olwen y llynedd ac ar gwrs cynganeddu gyda Twm Morys.

Fel awdur, oes gen ti fan neu lecyn penodol y byddi di’n mynd yno i ysgrifennu?

Nunlle yn benodol, ond mi fydda i’n aml troi at ddesg glir os oes ‘na un yn digwydd bod gerllaw.

Wyt ti’n un o’r rheiny sydd yn dilyn routine penodol? Rheol o ysgrifennu rhywbeth bob dydd; beiro benodol; terfyn geiriau?

Ddim o gwbl- does wybod be’ y gwna i ‘sgwennu nag ym mha amgylchiadau!

Beth yw dy hoff lyfr neu gyfrol?

Byddai’n rhaid i mi ddweud mai Le Petit Prince gan Antoine de Saint-Exupéry ydi’r llyfr sydd wedi fy nghyfareddu fwyaf!

Pe gallit ti ddewis 3 awdur, byw neu farw, i ddod draw am swper, pa dri fuaset ti’n eu dewis?

Shakespeare, George Sand a Kate Roberts.

Pe gallit ti fod yn unrhyw gymeriad mewn llenyddiaeth o unrhyw fath, pwy fyddet ti, a pham?

Madame de Merteuil o nofel Les Liaisons dangereuses- tydi hi ddim y person mwyaf moesol ond yn sicr mi fyddai diwrnod yn ei bywyd hi’n ddifyr dros ben!

Pe gallit ti fynd yn ôl mewn amser i gwrdd ag unrhyw unigolyn o hanes Cymru, pwy fyddai’r unigolyn hwnnw / honno a pham?

Dic Aberdaron- i ofyn am dips dysgu ieithoedd!

Am ragor o wybodaeth am y prosiect, ewch i wefan www.gwylhanes.cymru