Gŵyl Hanes Cymru i Blant: Mari Elen Jones
Gwe 8 Medi 2017 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Bydd 12 o awduron ifanc yn mentro i Dŷ Newydd y penwythnos hwn ar gyfer cwrs yng nghwmni Anni Llŷn fel rhan o brosiect Gŵyl Hanes Cymru i Blant 2018, mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a Cadw.

Mari Elen Jones yw un o’r 12 awdur. Daw Mari o Gwm y Glo yng Ngwynedd. Mae wedi ysgriennu nifer o sgriptiau, ac nid yw’n ddiethr i’r profiad o weld ei gwaith yn cael ei berfformio. Bu’n rhan o gynlluniau Sgript i Lwyfan (Frân Wen); Neonsparz (Neontopia); Protest Fudur a Noson Cynhesu’r Tebot (Cwmni Tebot). Nid yw Mari erioed wedi sgriptio ar gyfer plant, ac fel mam ifanc mae’n edrych ymlaen at y cyfle i greu darn o waith y bydd ei phlentyn yn gallu’i fwynhau.

Er mwyn i ni ddod i’w hadnabod hi’n well, mae Mari wedi ateb ein holiadur pum munud:

Beth yw dy berthynas di â Thŷ Newydd? A’i dyma fydd y tro cyntaf i ti ymweld â ni?

Dyma fy nhro cyntaf yn Nhŷ Newydd, dwi wedi bod ‘isio dod ers stalwm iawn iawn.

Fel awdur, oes gen ti fan neu lecyn penodol y byddi di’n mynd yno i ysgrifennu?

Oni’n hoff iawn o ‘sgwennu ar y tren pan oni’n y brifysgol, dwi’n ama mae fi oedd yr unig berson oedd yn edrych ymlaen am siwrne 5 awr o Harlech i Gaerdydd ond oni’n gweld o’n amser da i hel meddyliau, a ‘di’r signal ffon ddim yn gret felly doedd dim yn yn gallu dennu fy sylw.

Wyt ti’n un o’r rheiny sydd yn dilyn routine penodol? Rheol o ysgrifennu rhywbeth bob dydd; beiro benodol; terfyn geiriau?

Mi oni’n mynd a llyfr a beiro hefo fi i bobman, ac s oni’n cael syniad yn ei sgwennu hi lawr, ond yn rwan dwi ‘di swapio y beiro a’r llyfr am glytiau a weips.

Beth yw dy hoff lyfr neu gyfrol?

The Rosie Project – Graeme Simison. Llyfr lyfli nath i mi chwerthin yn uchel a codi fy nghalon.

Pe gallit ti fod yn awdur ar unrhyw lyfr sydd wedi ei gyhoeddi, pa lyfr fyddai hwnnw?

J.K Rowling – Harry Potter and the philosopher’s stone

Darganfod byd Harry Potter oedd un o’r cyfnodau mwyaf hudolus o mhlentyndod i, mi fysa’ gwybod mod i’n cael yr effaith yna ar blant a phobl ifanc yn anhygoel. (hefyd, mi fyswn i’n gyfoethog)

Pe gallit ti ddewis 3 awdur, byw neu farw, i ddod draw am swper, pa dri fuaset ti’n eu dewis?

Lena Dunham, Rupi Kapur a Dylan Thomas… ‘di nhw ddim i gyd yn awduron, ond dwi’ wrth fy modd hefo gwaith pob un ohonynt.

Pe gallit ti fod yn unrhyw gymeriad mewn llenyddiaeth o unrhyw fath, pwy fyddet ti, a pham?

The Roly-Poly Bird – The Twits. Mae o’n ddewr ac mae o’n gallu fflio.

Pe gallit ti fynd yn ôl mewn amser i gwrdd ag unrhyw unigolyn o hanes Cymru, pwy fyddai’r unigolyn hwnnw / honno a pham?

Fy hen hen Nain… Yn ol son, roedd hi’n wrach.

Am ragor o wybodaeth am y prosiect, ewch i wefan www.gwylhanes.cymru