Gŵyl Hanes Cymru i Blant: Sian Elin Williams
Gwe 8 Medi 2017 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Bydd 12 o awduron ifanc yn mentro i Dŷ Newydd y penwythnos hwn ar gyfer cwrs yng nghwmni Anni Llŷn fel rhan o brosiect Gŵyl Hanes Cymru i Blant 2018, mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a Cadw.

Sian Elin Williams yw un o’r 12 awdur. Daw Sian Elin o Lanybydder, ger Llanbed. Mae ganddi ddiddordeb mawr yn hanes a chymeriadau ei hardal. Ers ei phlentyndod, trwy gyfleon Urdd Gobaith Cymru a Mudiad y Ffermwyr Ifanc, mae wedi bod yn rhan o nifer fawr o sioeau a dramâu. Mae’n astudio Drama ac Astudiaethau Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth, ond ar hyn o bryd, am gyfnod o flwyddyn, mae’n derbyn hyfforddiant yn y gweithle fel Swyddog Ieuenctid gyda’r Urdd yng Ngheredigion.

Er mwyn i ni ddod i’w hadnabod hi’n well, mae Sian Elin wedi ateb ein holiadur pum munud:

Beth yw dy berthynas di â Thŷ Newydd? A’i dyma fydd y tro cyntaf i ti ymweld â ni?

Wedi clywed nifer o bethau arbennig am Canolfan Ty Newydd, y straeon difyr a dw i’n edrych ymlaen yn fawr i ymwled a chi ac i fod yn greadigol gyda phobl sydd yn ymddiddori yn yr un fath o bethau a mi.

Fel awdur, oes gen ti fan neu lecyn penodol y byddi di’n mynd yno i ysgrifennu?

Nid felni ‘Na, ond ar ddiwrnod braf- I fynd ar farm Mamgu a Tadcu, fyddai’n gwario lot o’n hamser yn meddwl mewn ffurf greadigol.

Wyt ti’n un o’r rheiny sydd yn dilyn routine penodol? Rheol o ysgrifennu rhywbeth bob dydd; beiro benodol; terfyn geiriau?

‘Ma genai un feiro dwi with fy modd yn eu ddefnyddio- Dw i’n teimlo fy mod yn gallu sgwennu’n well gyda’r un beiro bach yma- druan a mi pam rhedith yr inc allan.

Beth yw dy hoff lyfr neu gyfrol?

Ers yn yr ysgol- ‘ma rhaid i mi gyfaddau dw i wedi dwli ar gyfrol Un Nos Ola Leuad- Caradog Prichard, Mae e’n lyfr sydd yn cyffwrdd a phob emosiwn yn fy marn i, a na beth sy’n creu llyfr da.

Pe gallit ti fod yn awdur ar unrhyw lyfr sydd wedi ei gyhoeddi, pa lyfr fyddai hwnnw?

Siwrafod Kate Roberts- Te yn y Grug, unwaith eto- awdur sydd yn gallu mynd i ddyfnder emosiynnau. A cymeriadu arbennig!

Pe gallit ti ddewis 3 awdur, byw neu farw, i ddod draw am swper, pa dri fuaset ti’n eu dewis?

Gwenlyn Parry, Bethan Gwanas a Caradog Prichard

Pe gallit ti fynd yn ôl mewn amser i gwrdd ag unrhyw unigolyn o hanes Cymru, pwy fyddai’r unigolyn hwnnw / honno a pham?

Twm Carnabwth- Arweinydd Merched Beca, teimlo fod ei gryfder dros ei haelwyd yn un arbennig, a fyddem wrth y modd yn gofyn am yr holl streon a’r anturiaethau.

Am ragor o wybodaeth am y prosiect, ewch i wefan www.gwylhanes.cymru