• Llun:  Bloodaxe Books
Jane Clarke: o ddisgybl i ddarllenydd gwadd
Llu 24 Hydref 2016 / Ysgrifennwyd gan Jane Clarke

Bardd o Iwerddon yw Jane Clarke, a cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf, The River, gan Bloodaxe Books. Yn 2016 enillodd Wobr Lenyddol Hennessy am Farddoniaeth a chyrhaeddodd The River restr fer Gwobr Ondaatje y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol yn yr un flwyddyn. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd ei gwaith yn The Guardian, The Irish Times, New Hibernia Review a Poetry Ireland Review. Fel cyn-fynychwr cyrsiau ysgrifennu creadigol yn Nhŷ Newydd dros y blynyddoedd, roedd yn bleser gennym ei chroesawu yma’n ddiweddar fel darllenydd gwadd ar Ddosbarth Meistr yr Hydref. Rydym wrth ein boddau o fod wedi cael chwarae rhan yn ei datblygiad fel bardd, a dymunwn pob lwc iddi gyda’i gyrfa ysgrifennu.

Ym mis Gorffennaf 2008, teithiais ar y trên o Wicklow i Dun Laoghaire, daliais y fferi i Gaergybi a thrên arall i Fangor ar fy ffordd i Dŷ Newydd i Ddosbarth Meistr Barddoniaeth gyda Gillian Clarke a Carol Ann Duffy. Ro’n i wedi bod yn barddoni am dair mlynedd a chyrhaeddais Dŷ Newydd yn teimlo’n gyffrous tu hwnt ond hefyd braidd yn nerfus o fod yng nghwmni dwy sy’n feirdd mor amryddawn. Digwydd bod, doedd dim angen i mi boeni o gwbl. Yn wir roedd hon yn wythnos hollbwysig yn natblygiad fy ngwaith a’m hunaniaeth fel bardd. Cyrhaeddais adref gyda chasgliad o gerddi newydd yn byrlymu o mhen, ond yn bwysicach na dim, teimlais fod fy ngwaith yn cael ei werthfawrogi, a bu hynny’n hwb mawr i mi barhau i ymroi fy amser i ysgrifennu.

Ers hynny, rwyf wedi bod yn ôl i Dŷ Newydd ar gyfer pedwar cwrs arall gyda Gillian Clarke, Carol Ann Duffy, Maura Dooley, Mark Cocker a Fiona Sampson. Roedd arbenigedd y tiwtoriaid, yr amser a’r gofod i ganolbwyntio, cyfeillgarwch a chefnogaeth y beirdd eraill, yn ogystal â’r cyfle i ddysgu trwy wrando ar y tiwtoriaid a’r darllenwyr gwadd yn fy nenu yn ôl dro ar ôl tro. Mae’r awyrgylch gyfeillgar a hamddenol yn y tŷ hynafol hwn, wedi ei leoli rhwng un o draethau Bae Ceredigion a choedwig ger glannau’r afon Dwyfor, yn lleoliad perffaith i chwarae gyda geiriau o bob math, i olygu gwaith a breuddwydio.

Cefais y fraint a’r pleser o ddychwelyd fel darllenydd gwadd ar Ddosbarth Meistr Gillian Clarke ac Imtiaz Dharker yn Hydref 2016. Teimlad braf oedd gallu darllen cerddi o’m casgliad cyntaf, The River, a gyhoeddwyd gan Bloodaxe Books ym Mehefin 2015, a thynnu sylw’r beirdd at y cerddi hynny a ysgrifennwyd yn yr union ystafell honno, neu o amgylch y bwrdd mawr neu ar un o feinciau’r ardd yn Nhŷ Newydd.

clarke-jane-isobel-oduffy-cropped

www.janeclarkepoetry.ie