• Llun:  Emyr Young
Llatai Cariadon Cymru
Llu 8 Mehefin 2015 / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Ysgrifennwyd y cofnod blog hwn gan Gwen Lasarus, Swyddog Cymunedol Tŷ Newydd.

Ffydd, gobaith cariad a’r mwyaf o’r rhain yw cariad.

Dwi’n cofio un flwyddyn merch yn gofyn imi anfon cardyn at ei chariad ar Ddydd Santes Dwynwen. Hmmm, ‘sa’n well imi egluro falle: dwi’n cynnig fy ngwasaneth fel llatai i gariadon ar Ddydd Santes Dwynwen fel rhan o’m gwaith efo Llenyddiaeth Cymru. Dwi’n creu cardiau addas i’r achlysur, ac yn eu gyrru gyda negeseuon cariadus ar ran pobl i bob cwr o’r wlad.

“Iawn” meddwn i’r Ionawr hwnnw dros y ffôn, “Be ydi ei enw fo a lle mae o’n byw?” a’r ateb a gefais nôl oedd HMP Stoke Heath. Roedd o’n y jêl!

Un arall yn gofyn i mi yrru cerdyn at hen fflam o’r 1960au. Hawdd cynnau tân ar hen aelwyd, gyda gwasanaeth llatai falle?

Dro arall rhywun yn gofyn imi ysgrifennu’r neges ganlynol yn y garden:
“A wnei di fy mhriodi ?”
A’r ateb oedd , “Gwnaf”.

Os hoffech chi i mi yrru cerdyn Santes Dwynwen ar eich rhan eleni, gydag englyn bendigedig wedi ei greu yn arbennig gan Gwyneth Glyn, cysylltwch â ni ar unwaith!