Llenyddiaeth Cymru yn Derbyn Grant at Gadwraeth Canolfan Tŷ Newydd
Iau 26 Ionawr 2017 / Ysgrifennwyd gan Leusa

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi derbyn grant o £2,000 gan y Sylvia Waddilove Foundation UK tuag at waith cadwraeth yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.

Wedi ei adeiladu yn y bymthegfed ganrif, mae Tŷ Newydd yn adeilad rhestredig Gradd II* ag iddo hanes hir a diddorol. Yn y 1940au, cafodd y tŷ ei ail-ddylunio gan bensaer enwog Portmeirion, Syr Clough Williams-Ellis ar gyfer y cyn Brif Weinidog o Lanystumdwy, David Lloyd George. Cyn hynny, gwelodd pedair wal y tŷ dyfodiad ac ymadawiad sawl teulu arall dros y canrifoedd.

Amlinellodd Cynllun Cadwraeth Tŷ Newydd, a gomisiynwyd yn ddiweddar, y gwaith sydd angen ei wneud i gynnal a chadw nodweddion treftadaeth pwysicaf y tŷ. Bydd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i chwilio am gyfleoedd a grantiau pellach i ariannu’r gwaith sydd angen ei gwblhau yn Nhŷ Newydd i sicrhau parhad y ganolfan fel gofod diogel ac ysbrydoledig i awduron.