• Llun:  Hoffi
Gwefan newydd, cyrsiau newydd!
Gwe 20 Tachwedd 2015 / Ysgrifennwyd gan 3

Croeso i wefan newydd sbon Tŷ Newydd, wedi ei ddylunio a’r greu gan Creo. Mae’n edrych yn ddigon da i’w fwyta wir. Rydym hefyd yn hapus iawn i gael cyhoeddi rhaglen o gyrsiau 2016 hefyd gyda lansio’r wefan hon. Ar ôl misoedd lawer o gynllunio; ebostio, ffonio a gyrru colomenod at diwtoriaid a darllenwyd gwadd; ysgrifennu a golygu bywgraffiadau a disgrifiadau cyrsiau (a gwneud hynny eto ganwaith a mwy) – rydym o’r diwedd wrth ein boddau o gael datgelu ein gwaith i chi. Gwibiwch draw i adran Cyrsiau ac Encilion i weld beth sydd gennym ar eich cyfer yn 2016 ac i archebu lle ar eich cwrs delfrydol heddiw. Rydym hyd yn oed yn cynnig gostyngiad o 10% ar ein holl gyrsiau hyd ddiwedd mis Ionawr.

Os fyddai’n well gennych ddarllen am ein cyrsiau mewn rhaglen brint, cysylltwch ac fe yrrwn gopi i chi yn y post.

 

Yn ogystal â’r newydd uchod:

  • Mae Tŷ Newydd wedi cael cath fach breswyl. Dydi hi ddim yn cynganeddu eto, ond mae’n odli yn o lew.
  • Rydym bron a gorffen ar y gwaith adnewyddu a wnaed yn bosibl diolch i Grant Cyfalaf y Loteri drwy Gyngor y Celfyddydau o £30,000, a pres cyfatebol o £10,000 gan yr Academi Gymreig a £10,000 gan Sefydliad Teulu Ashley drwy’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru. Cafwyd yr arian ei wario ar ddodrefn newydd, arwyddion a gosodiadau i wella’r ystafelloedd cysgu, ystafelloedd ymolchi a’r mannau cymunedol, yn ogystal â cyfres o weithiau artistig i’w gosod ar y safle.
  • Gyda dim ond cwta saith wythnos i fynd tan y Nadolig, mae Tŷ Newydd yn parhau i fod ar gael i’w logi dros yr ŵyl. Mae’n le perffaith ar gyfer teuluoedd mawrion neu grŵpiau mawr o ffrindiau. Cysylltwch â ni os oes diddordeb.

Cysylltwch â ni gydag unrhyw sylwadau neu adborth ar y wefan, y cyrsiau neu unrhywbeth arall (o fewn rheswm) a diolch am alw heibio’r wefan i’n gweld ni.

Cofion cynnes atoch,
Leusa