Plannu Negeseuon Heddwch mewn Capsiwl Amser
Gwe 22 Medi 2017 / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Plannu Negeseuon Heddwch mewn Capsiwl Amser 
yng Ngardd Tŷ Newydd, cyn gartref Prif Weinidog
y Rhyfel Byd Cyntaf, David Lloyd George

Dydd Sul 24 Medi, claddwyd capsiwl amser yng ngardd Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Yn ei grombil roedd llythyrau a cherddi gan aelodau Sgwad ‘Sgwennu newydd Gwynedd, wedi eu creu mewn gweithdy yn ystod y diwrnod yng nghwmni’r Prifardd Aneirin Karadog a’r awdur Sian Northey.

Bu aelodau’r Sgwad, sydd rhwng 9-11 oed, yn cyfansoddi llythyrau a cherddi i genedlaethau’r dyfodol yn sôn am bwysigrwydd heddwch yng nghyd-destun y Rhyfel Byd cyntaf, ac yn nghyd-destun materion mwy cyfoes.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o gynllun ehangach Llenyddiaeth Cymru, Cadwyn Heddwch, a gaiff ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae 525 o blant eisoes wedi cymryd rhan yn y cynllun eleni drwy fwynhau gweithdai ysgrifennu creadigol, ac ymweld ag archifdai i archwilio i hanes cymeriadau lleol y Rhyfel Mawr.

Caiff y capsiwl amser ei blannu yng ngardd Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, sef cartref olaf David Lloyd George a fu’n Weinidog Arfau a Rhyfel, ac yna’n Brif Weinidog ar Brydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Caiff Lloyd George ei adnabod fel y gŵr ddaeth a’r Rhyfel i ben, a bu’n un o’r rhai oedd yn gyfrifol am Gytundeb Heddwch Versaille. Ond roedd hefyd yn flaenllaw yn yr ymgyrch i annog bechgyn ifainc Cymru i ymrestru â’r fyddin yn ystod blynyddoedd y rhyfel.

Un o’r eitemau a gladdwyd yn y capsiwl oedd y gerdd hyfryd hon gan y Sgwad ‘Sgwennu:

 

Y Sgwrs

S’mai? `Dach chi’n iawn?

 

Ydy eich byd wedi ei falu’n rhacs jibidêrs?

Er gwaetha’ Trump a Kim Jong-un, mae ein Gwynedd yn oesol o hardd.

 

Ydy’r Eisteddfod yn dal i gael ei chynnal?

Buon ni’n campio yno eleni ac yn dathlu’r Gymraeg.

 

Ydych chi’n dal i gofio Hedd Wyn neu ai Trump `di popeth erbyn hyn?

 

Ar ôl i bobl farw ydych chi’n dal i deimlo’n arw?

 

Sut weithiodd Brexit allan i chi? Ydy Cymru’n rhydd?

 

Sut mae Cymru’n edrych?

Gwelwn ni flodau hardd, caeau a natur heb ei ddifetha gan ddyn.

 

Oes `na bobol yn byw yn y gofod?

Mae ein traed ni’n dal ar y ddaear.

 

Ydy Pen Llŷn yn dal ei dir rhag y môr?

Heddiw mae’n llawn twristiaid ac yn lle drud i fyw.

 

Ydych chi’n dal i sgwennu?

Mae hynny’n gwneud i ni gyd wenu.

 

Ydy mathemateg yn dal i fod yn ddiflas?

Mae’n well gen i syllu ar yr awyr las.

 

Ydy un o’ch ffrindiau’n robot?

Ydy te’n dal i ddod o’r tebot?

 

`Dach chi’n dal i hongian dillad i sychu dillad ar y lein?

Dwi’n hongian sana’ sydd ddim wastad mewn para’.

 

A fu trydydd rhyfel byd?

`Dan ni’n dal i frifo ers Hitler ac erchyllterau’r cyntaf a’r ail.

 

Rhyfel, rhyfel, rhyfel, `ta ydy’r byd yn dawel?

 

Ydych chi’n dal i ddefnyddio’r ffôn?

`Dan ni’n llenwi Snapchat, Instagram, Facebook a Twitter â Chymraeg.

 

Ydi hi’n dal i fwrw eira?

Ni syrthiodd pluen yma ers pedair mlynedd.

 

Oes `na ffasiwn beth â chloc yn eich byd

Neu ydy tywod amser wedi chwythu i ffwrdd?

 

Oes gynnoch chi sgwadiau sgwennu?

A ddaeth rhai ohonon ni yn gewri ein llên?

 

– Sgwad Sgwennu Gwynedd ac Aneirin Karadog, 24/09/2017