Tair Mainc i Gofio Tri Llenor
Llu 5 Medi 2016 / Ysgrifennwyd gan Angharad Pearce Jones

Yn 2015, derbyniodd Llenyddiaeth Cymru grant cyfalaf hael gan Gyngor Celfyddydau Cymru i wneud gwaith adnewyddu angenrheidiol i Dŷ Newydd. Fel rhan o’r gwaith, comisiynwyd darnau celf newydd wedi eu creu gan artistiaid lleol. 

Yma, mae Angharad Pierce Jones yn rhoi’r cefndir i dair mainc y mae hi wedi eu creu a’u gosod yng ngerddi Tŷ Newydd er cof am dri o lenorion mawr Cymru. 

 

Seddi Tŷ Newydd – Angharad Pearce Jones

Mae wedi bod yn bleser creu tair sedd ar gyfer gerddi Tŷ Newydd, er cof am dri o’n llenorion pwysicaf ni, RS Thomas, Kate Roberts ag Iwan Llwyd. Mae gwybod fod y seddi yn mynd i ychwanegu at hanes y lleoliad arbennig hwn yn fraint, a gyda lwc, bydd ymwelwyr yn teimlo fod ychydig bach o’r tri ohonynt yn dal i fyw trwy’r celfi yma.

Sedd RS Thomas

“It is this great absence that is like a presence”

Cadair 1
Sedd R S Thomas

 

Mae sedd RS Thomas yn bresenoldeb mawr, fel y bardd a’r gweinidog ei hun. Mae’n edrych allan dros Ben Llŷn, man cychwyn llawer o’i waith ysgrifenedig ac mae ‘na symlrwydd gwerinol i’r cynllun, wedi ei ysbrydoli gan gadeiriau ‘stick’ traddodiadol Cymreig. Mae’n gweddu ffordd o fyw syml, anfoethus RS ei hun.

Rwyf wedi creu cadeiriau tebyg o’r blaen, ar gyfer Canolfan Gorwelion yn Y Bala, ond mae’r ychwanegiad o gefn pren derw gwyrdd, yn esmwytho’r gadair yma ychydig, a’i gwneud hi’n fan i eistedd a myfyrio yn hytrach na cherflun i’w dringo. Mae’r raddfa or-fawr yn gweithio’n dda yn y lleoliad ac yn gwneud i chi deimlo’n fach iawn yn y tirlun.

 

 

Sedd Kate Roberts

Mainc Kate 2
Mainc Kate Roberts

Mae’r sedd yma’n gymysg o’r gwerinol a’r chwaethus: Mae ffensys crawiau gogledd Cymru yn amlwg yn y cefn a’r sedd, tra bod elfen glasurol, wedi ei gynllunio, i’r coesau a’r sgroliau dur. Mae’r llechi’n adlewyrchu’r ardal ble magwyd Kate Roberts ac a ysbrydolodd gymaint o’u gwaith ac maen nhw wedi eu hailgylchu o ffensys crawiau go iawn, oedd wedi dymchwel.

Er na chefais i erioed y fraint o gyfarfod Kate Roberts, yn ystod y broses cynllunio, fe ddysgais ei bod hi’n ddynes chwaethus iawn ac felly mi es ati i geisio cyfuno’r ddwy elfen o’i phersonoliaeth mewn un sedd. Mae hi wedi ei lleoli i un ochr o brif fynediad Tŷ Newydd a phan osodais i hi yno, roedd yn edrych fel petai hi wedi bod yno erioed.

 

 

Sedd Iwan Llwyd

Mainc Iwan Llwyd
Mainc Iwan Llwyd

Dyma fardd cefais i’r fraint o’i gwmni ar sawl achlysur ac yn hynny o beth, roedd hyn yn ei gwneud hi’n anoddach i fi gyrraedd cynllun teilwng ar ei gyfer. Roedd Iwan yn gyfaill mawr i ni yn y celfyddydau gweledol ac yn gweithio ar y cyd gyda pheintwyr, cerflunwyr ac animeiddwyr trwy gydol ei yrfa.

Y ddelwedd ohono sy’n aros fwyaf yn fy atgof i fodd bynnag, yw Iwan yn ei het nodweddiadol, felly dyna yw ysbrydoliaeth ffurf y gadair. Roedd o’n gymeriad cymdeithasol tu hwnt ond roedd ‘na unigedd iddo hefyd. Mae dwy elfen felly i’r sedd: gall unigolyn eistedd yng nghrombil y fainc, ar sedd bren a dewis bod ar ben ei hun ond unwaith mae sawl person yn ymuno, ar ran allanol y fainc, mae’n sedd llawer mwy cymdeithasol.

Mae’r siapiau addurnedig ar y gadair wedi eu hysbrydoli gan ffurfiau offerynnau cerdd a’r marciau sy’n gysylltiedig â cherddoriaeth, sy’n dathlu ei gefndir cerddorol, fel gitarydd ac aelod o’r band Geraint Løvgreen a’r Enw Da.

 

Mwy o luniau:

 

mainc Kate
Braslun o Fainc Kate Roberts
Mainc Iwan Llwyd
Mainc Iwan Llwyd
Cadair R S Thomas
Cadair R S Thomas