Theatr Gen Creu
Iau 24 Mai 2018 / , , / Ysgrifennwyd gan Miriam

Mae Theatr Gen Creu yn fenter newydd sy’n cefnogi talent, yn datblygu crefft y theatr ac yn cynnig cyfleoedd arbennig i artistiaid yng Nghymru gyda’r nod o:

  • ddatblygu a chyflwyno gwaith theatr newydd amrywiol ac o safon yn y Gymraeg
  • meithrin artistiaid theatr Cymraeg i’r dyfodol.

Bydd rhaglen Theatr Gen Creu yn ystod 2018 yn cynnwys:

  • Cynyrchiadau o waith gan ddau ddramodydd newydd
  • Cyflwyniadau o waith-ar-waith
  • Cyfleoedd hyfforddi a mentora

HYFFORDDIANT A MENTORIAETH

Fel rhan o ymrwymiad y cwmni i feithrin doniau newydd ac i ddarparu cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol ym maes y Theatr Gymraeg, rydym wedi creu dau gynllun newydd ar gyfer eleni sef Awenau: Cynllun Mentora Cyfarwyddwyr a Gwneuthurwyr Theatr, a Grŵp Awduron Newydd. Rydym hefyd wedi ymuno â theatr dafarn Caerdydd, The Other Room, i gynnig cyfle unigryw i ddramodydd benywaidd Cymraeg. Rydym bellach yn galw am geisiadau ar gyfer ein Grŵp Awduron Newydd. Manylion isod:

GRŴP AWDURON NEWYDD

Dyma gyfle arbennig i hyd at 8 o awduron theatr newydd neu gymharol newydd i ddatblygu eu crefft trwy gyfres o ddigwyddiadau, gweithdai a mentoriaeth dros gyfnod o ddeg mis. Nod y Grŵp Awduron Newydd yw meithrin doniau theatr Gymraeg y dyfodol, a sicrhau bod lleisiau newydd ac amrywiol yn cael cyfle i ffynnu. Byddwn hefyd yn cynorthwyo’r unigolion hynny i ddatblygu eu crefft wrth iddynt greu gwaith theatr newydd yn y Gymraeg.

Mae’r Grŵp Awduron Newydd yn agored i awduron o bob oed ac o bob cwr o Gymru a thu hwnt – pobl sy’n awyddus i archwilio, arbrofi a datblygu eu crefft. Efallai bod rhai wedi arfer ag ysgrifennu mewn cyfryngau eraill ond am fentro am y tro cyntaf i fyd y theatr. Efallai bod eraill eisoes yn gweithio yn y theatr ond am roi cynnig ar ysgrifennu. Ac efallai bod eraill wedyn wedi cael peth profiad eisoes yn y maes ond yn teimlo eu bod angen cefnogaeth er mwyn symud yn eu blaenau. Rydym yn rhoi pwyslais ar annog ceisiadau o blith grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli yn y celfyddydau – pobl anabl, menywod, pobl dduon ac Asiaidd, lleiafrifoedd ethnig eraill, a rhai o gefndiroedd economaidd ddifreintiedig.

Mae’r Grŵp Awduron Newydd yn cael ei gyflwyno gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad ag S4CLlenyddiaeth Cymru, PontioTheatr ClwydCanolfan y Celfyddydau AberystwythTheatrau Sir GârCanolfan Mileniwm Cymru a Theatr y Sherman.

Bydd y cynllun yn rhedeg rhwng Medi 2018 a Mehefin 2019 ac yn cynnwys cyfres o weithdai gydag awduron a chyfarwyddwyr profiadol mewn gwahanol leoliadau ar draws Cymru. Bydd y rhan helaethaf o’r gweithdai yn cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd cyfle i’r awduron hefyd fynychu nifer o berfformiadau theatr mewn canolfannau amrywiol, a hynny’n rhad ac am ddim.

Yn dilyn y gweithdai bydd yr awduron yn cael cyfnod i ysgrifennu drama newydd, gydag adborth gan bobl broffesiynol yn cael ei roi ar y gwaith wrth iddo ddatblygu. Ar ddiwedd y cyfnod ysgrifennu, cynhelir darlleniadau cyhoeddus wedi eu hymarfer (gydag actorion a chyfarwyddwyr proffesiynol) o’r dramâu newydd hyn yn y canolfannau sy’n rhan o’r cynllun.

Fel rhan o ymrwymiad Theatr Genedlaethol Cymru a’r holl bartneriaid i sicrhau bod y cynllun hwn yn hygyrch ac yn agored i bawb sydd am ymgeisio, mae pob elfen ohono yn cael ei gynnig heb unrhyw gost i’r ymgeiswyr llwyddiannus. Bydd yr awduron yn derbyn costau teithio, llety a chynhaliaeth ar gyfer mynychu’r gweithdai, sesiynau adborth, ymarferion a’r darlleniadau.

Rydym yn galw am geisiadau nawr! I ymgeisio cwblhewch y ffurflenni isod a’u dychwelyd i creu@theatr.com erbyn 5.00yh, dydd Llun 18 Mehefin:

Ffurflen Gais Grwp Awduron Newydd

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb Grwp Awduron Newydd

I ddarllen ein hysbysiad preifatrwydd ewch i: Hysbysiad Preifatrwydd i Ymgeiswyr

Am fanylion llawn am Grŵp Awduron, gan gynnwys amserlen y cynllun ewch i: Pecyn Gwybodaeth Grŵp Awduron Newydd

 

AWENAU: CYNLLUN MENTORA CYFARWYDDWYR A GWNEUTHURWYR THEATR

Bydd y cynllun hwn yn cynnig cyfle hyfforddi a mentora i gyfarwyddwyr a gwneuthurwyr theatr sydd ar ddechrau eu gyrfa, neu sydd eisoes yn gweithio yn y sector ond yn awyddus i newid cyfeiriad neu ehangu eu profiad. Y bwriad yw ysbrydoli darpar arweinwyr creadigol y theatr yng Nghymru a datblygu eu sgiliau, er mwyn eu cynorthwyo i gydio’n hyderus yn yr awenau ac arwain prosiectau theatr Cymraeg. Bydd yn cynnwys rhaglen amrywiol o ddosbarthiadau meistr gydag ymarferwyr theatr profiadol. Bydd hefyd yn cynnwys cyfle i bob un a fydd yn rhan o’r cynllun i weithio fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar un o gynyrchiadau’r cwmni, cyfle i gysgodi ac i ymwneud â’r gwaith o ddatblygu sgriptiau newydd y cwmni, ynghyd â threulio chyfnod preswyl yn Y Llwyfan, cartref Theatr Genedlaethol Cymru. Bydd rhagor o fanylion a gwybodaeth ynghylch sut i ymgeisio ar gael yn fuan.

GWOBR VIOLET BURNS I DDRAMODWYR

Ymhen ychydig wythnosau, mewn cydweithrediad â Theatr Genedlaethol Cymru, bydd The Other Room – theatr dafarn Caerdydd – yn cyhoeddi enw enillydd Gwobr Violet Burns i Ddramodwyr. Mae hwn yn gyfle i awdures sy’n ysgrifennu yn Gymraeg i weld ei gwaith yn cael ei ddatblygu a’i gyflwyno gan The Other Room. Wedi i enw’r enillydd gael ei gyhoeddi bydd The Other Room, mewn cydweithrediad â Theatr Genedlaethol Cymru, yn gweithio gyda’r awdures fuddugol i ddatblygu drama newydd, gyda’r nod o lwyfannu’r gwaith hwnnw yn 2019.

Bydd rhagor o fanylion am bartneriaid eraill y mentrau hyn ar gael yn fuan.

 


 

Bydd nifer o gynlluniau Theatr Gen Creu yn cael eu harwain gan Sarah Bickerton, Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Genedlaethol Cymru. Dyma oedd gan Sarah i’w ddweud am y fenter newydd hon:

Rydw i’n edrych ymlaen yn arw at groesawu llu o awduron, cyfarwyddwyr a gwneuthurwyr theatr atom dros y flwyddyn, i archwilio, arbrofi ac i fod yn ddewr! Fy ngobaith yw y bydd y fenter yn ysbrydoliaeth ac yn fan cychwyn cyffrous iddyn nhw a’u syniadau.”

Dywedodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, am Theatr Gen Creu:

Mae ysgrifennu newydd yn ganolog i waith y cwmni, ac rydym yn falch eithriadol o gael cefnogi awduron a gwneuthurwyr theatr sydd ar gychwyn y llwybr proffesiynol neu sydd ag angen cymorth i gymryd eu camau nesaf. Edrychwn ymlaen at roi’r cynlluniau uchelgeisiol hyn ar waith, at gydweithio gyda’n partneriaid amrywiol, ac at groesawu atom griw o artistiaid talentog ac ymroddgar sydd am ddatblygu eu crefft ac sy’n sylfaen i’r diwylliant Theatr Cymraeg heddiw ac i’r dyfodol.”

CYNYRCHIADAU: DRAMÂU GAN DDRAMODWYR NEWYDD

ESTRON

Bydd Estron, drama amgen a chyfoes gan Hefin Robinson, yn mynd ar daith ledled Cymru yn ystod Ebrill a Mai. Enillodd y ddrama ddireidus a dirdynnol hon y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol 2016, a chafodd y  cynhyrchiad yn y Cwt Drama ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol 2017 ymateb ardderchog gan adolygwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd. Dywedodd Lowri Cooke fod y ddrama yn “un y mae’n rhaid ei phrofi” ac “… yn ffres ac yn ffraeth, ac yn peri ffrwydrad o atgofion ym mhenglog y gwyliwr.” Bydd y tîm a ddaeth â’r ddrama’n fyw yn 2017 yn aros yr un fath ar gyfer y daith – gyda Janet Aethwy yn cyfarwyddo cast sy’n cynnwys Gareth Elis, Ceri Elen a llais Elin Llwyd. Bydd Estron yn mynd ar daith genedlaethol, ac ar gael i ganolfannau trwy gyfrwng cynllun Noson Allan. Mae cynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol i gynorthwyo grwpiau o wirfoddolwyr ledled Cymru i ddod â chynyrchiadau proffesiynol i leoliadau cymunedol. Ceir manylion llawn am y cynllun Noson Allan ar y wefan nosonallan.org.uk. Cyflwynir Estron mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Theatrau Sir Gâr.

MILWR YN Y MEDDWL

Yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, byddwn yn cyflwyno Milwr yn y Meddwl gan Heiddwen Tomos, sef gwaith buddugol y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017. Drama gignoeth yw hon, yn taflu goleuni ar brofiad milwr sy’n dychwelyd at ei deulu ac i’w gymuned ar ôl gwasanaethu dros ei wlad yn Rhyfel Irac. Bydd Milwr yn y Meddwl yn gyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman, mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Manylion pellach i ddilyn yn fuan.

CYFLWYNIADAU O WAITH-AR-WAITH

NYRSYS A DWY

Fel rhan o ŵyl ‘Perfformiadau i’r Chwilfrydig’* yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym mis Ebrill 2018, bu Theatr Genedlaethol Cymru yn cyflwyno dwy noson o ddarlleniadau o waith-ar-waith, gan gynnwys darlleniad cyhoeddus cyntaf Nyrsys gan Bethan Marlow. Roedd hwn yn gyfle prin i gael rhagflas o gynhyrchiad llawn a fydd yn dilyn ym mis Tachwedd 2018. Manylion llawn yma.

Dwy: Cafwyd hefyd ddarlleniad cyhoeddus o ddwy ddrama fu’n fuddugol yng nghystadleuaeth Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: ‘Ansh’ gan Lois Llywelyn Williams (2016) a ‘Lôn Terfyn’ gan Mared Llywelyn Williams (2017). Manylion llawn yma.

* Mae Perfformiadau i’r Chwilfrydig yn dymor o waith newydd cyffrous, pwerus a chanmoliaethus a’r gorau oll mewn theatr a pherfformio cyfoes gyda rhaglen ffraeth o gomedi, cabaret, cerddoriaeth, y gair llafar a nosweithiau llwyfan agored.

 

THEATR GEN CREU YN Y STEDDFOD

Byddwn yn parhau ein partneriaeth gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru i ddarparu gwledd o theatr fel rhan o’r ŵyl yn y Pentref Drama. Fel rhan o arlwy’r Pentref Drama, byddwn yn cyflwyno Theatr Gen Creu yn y Steddfod, sef cyfres o ddarlleniadau a chyflwyniadau o waith newydd sydd mewn datblygiad gan y cwmni, a hynny gan amrywiaeth o awduron – rhai ar gychwyn eu gyrfa ac eraill yn awduron profiadol neu led-brofiadol. Bydd y rhaglen hon yn cynnig cyfle i’r awduron hynny gymryd risgiau a bod yn fentrus a chwareus gyda’u crefft, a bydd hefyd yn darparu llwyfan i’r cwmni roi cipolwg ar rai o’r gweithiau hynny sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd. Bydd rhagor o fanylion ynghylch rhaglen Theatr Gen Creu yn y Steddfod ar gael yn fuan.