Tyfu’n Wyllt yng Ngardd Tŷ Newydd
Maw 14 Mehefin 2016 / Ysgrifennwyd gan Miriam Williams

Mae Tŷ Newydd, gyda chymorth pobl ifainc GISDA, wedi derbyn cyllid gan Tyfu’n Wyllt, er mwyn adfywio darn o ardd ar y safle. Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Erddi Botaneg Brenhinol Kew a’i gefnogi gan y Gronfa Loteri Fawr. Bydd yr ardd yn cael ei thrawsnewid o fod yn dir diffaith i ardd fyw sy’n llawn planhigion a blodau gwyllt.

Rhaglen bedair blynedd ydi Tyfu’n Wyllt er mwyn annog pobl i hau bodau gwyllt brodorol y Deyrnas Unedig. Credant y gallwn, gyda’n gilydd, weddnewid a dod â lliw i’r mannau lle rydym ni’n byw: gan droi llecynnau nad oes neb yn gofalu amdanyn nhw’n noddfa i flodau a bywyd gwyllt.

Cyn i griw GISDA ddod draw i Dŷ Newydd, roedd y rhan yma o’r ardd yn llwm, yn tyfu’n wyllt a doedd dim byd deniadol iawn yn ei chylch.

Fel rhan o’r prosiect, byddwn yn adfywio’r ardd trwy blannu blodau gwyllt, creu llwybr newydd, tocio ychydig ar y coed a phaentio’r sied. Byddwn yn trawsnewid y sied i fod yn llecyn i unrhyw un fynd yno i guddio rhag y byd, i ganfod yr awen neu i fwynhau’r ardd. Yn ogystal, bydd cerdd arbennig yn cael ei phaentio ar y sied er mwyn creu cyswllt rhwng yr ardd a chyfraniad Tŷ Newydd i lenyddiaeth o bob math.

Dyma ychydig o luniau o’r ardd yn datblygu. Byddwn yn siŵr o’ch diweddaru gyda mwy o luniau yn fuan, a bydd croeso cynnes i chi ddod i ymweld â’r ardd wedi i’r gwaith gael ei orffen.

20160607_121808

Angen ymweliad â’r ganolfan ailgylchu! 

20160608_103823

Criw GISDA yn gweithio’n brysur

Blodau gwyllt 2 Blodau Gwyllt

Blodau gwyllt wedi eu plannu o gwmpas yr ardd

Bysedd y cwn

Bysedd y Cŵn wedi dychwelyd i’r ardd

Sied

Y sied ar ei newydd wedd a mainc newydd sbon.

Gallwch ddysgu mwy am waith Tyfu’n Wyllt yma a neu eu dilyn ar Trydar a Facebook.