Wythnos yn Nhŷ Newydd
Iau 20 Hydref 2016 / Ysgrifennwyd gan Leusa Llewelyn

Dydd Llun

Cyfarfod staff i drafod tactegau cyn cychwyn diwrnod prysura’r wythnos. ‘Dw i’n cerdded o amgylch 14 ystafell wely’r ganolfan â dystar a hwfr llaw yn gwneud yn siŵr fod popeth yn berffaith. Casglu blodau o’r ardd i’w gosod ar y bwrdd derw mawr yn y ‘stafell fwyta, ac mae’r bisgedi cartref sy’n pobi yn y gegin yn llenwi’r tŷ ag arogl croeso.

Mae’r grŵp newydd o ddarpar awduron yn cyrraedd fel awyrennau mewn i faes awyr prysur a ninnau’r staff yn plethu â nhw wrth arwain pawb i’w stafelloedd, eu cartref am yr wythnos. Daw’n cwsmeriaid o bell ac agos, a’r pinnau lliwgar yn y map o’r byd ar y wal werthuso yn creu darlun hyfryd o’r gymuned lenyddol sy’n ymweld â ni’n flynyddol.

‘Dw i’n aros i gael swper gyda’r grŵp i’w croesawu yn swyddogol ac i roi cyflwyniad i’r wythnos. ‘Dw i’n siŵr fod fy ‘ffaith’ hanesyddol am ba mor hen yw’r tŷ yn newid bob wythnos (mae raid i mi holi rhywun am y dyddiad cywir a cheisio’i gofio erbyn y tro nesa). Yn ystod y cyflwyniad mae rhywun yn cam glywed, ac yn cyffroi o feddwl eu bod yng nghartref Boy George, yn hytrach na Lloyd George, ac yna mae napcyn rhywun yn dal fflam o gannwyll ganol bwrdd cyn i mi gyrraedd y darn am iechyd a diogelwch yn fy sgwrs. Gydag ochenaid ddofn ‘dwi’n dianc i fy mwthyn bach yn yr hen stablau gerllaw ar ôl eu rhybuddio i ddod i chwilio amdanaf mewn argyfwng yn unig. ‘Dwi ar fin newid i fy mhyjamas ond daw bloedd o du allan i nrws. Argyfwng? – Mae nhw wedi methu’n lân a dod o hyd i’r gwin.

Dydd Mawrth
‘Dw i’n rhannu fy mhaned ben bore â chnocell y coed sy’n clwydo ar y bwrdd adar, ennyd dawel cyn i’r cnoc cnocio ar ddrws y swyddfa gychwyn. Mae dwy awr wag wedi ei chadw yn fy nyddiadur bob ben bore Mawrth i ddelio â phroblemau’r criw newydd o awduron. Rhywun wedi anghofio brwsh dannedd, toiled rhywun wedi blocio, lamp rhywun wedi mynd ar grwydr, un arall eisiau help i danio’r stôf i goginio cig moch i’w frecwast. Ond gyda’r gweithdy ysgrifennu cyntaf dan ofal y tiwtoriaid proffesiynol, daw tawelwch wrth i bawb gael eu dwyn ymaith i fyd dychymyg am weddill yr wythnos.

Dydd Mercher
Cael sgwrs ag un o’r awduron yn y gegin yn aros i’r tegell ferwi. Mae hi’n dweud fod awyrgylch cefnogol y gweithdai wedi dod â’i hyder yn ôl a’i hannog i ail-gychwyn â nofel y cychwynnodd bymtheg mlynedd yn ôl.
Noson hwyr arall, gan fod y darllenydd gwadd yn ymweld. Dyma un o uchafbwyntiau’r wythnos heb os, ac yr wythnos hon mae Jan Morris yn dod i roi sgwrs. Teimlo’n freintiedig cael treulio amser yng nghwmni person mor ddifyr a ffraeth a hynny yn fy oriau gwaith. Ychwanegu ei llyfrau at fy rhestr ‘i’w darllen’ sy’n tyfu’n hwy bob wythnos gyda’r llif o awduron arbennig sy’n dod drwy ein drysau.

Dydd Iau
Mae criw o awduron wedi cael blaen ar y staff y bore ‘ma a wedi bod yn nofio yn y môr yng Nghricieth cyn eu gweithdy bore. Mae’r haul yn tywynnu a’r tŷ a’r ardd yn edrych yn odidog. Mae’r awduron yn treulio eu prynhawniau rhydd yn ysgrifennu ym mhob cilfach o’r ardd, yn dwyn ysbrydoliaeth o’r byd natur o’u cwmpas. Mynd am beint fin nos i Dafarn y Plu gyda’r awduron ar ôl diwrnod chwilboeth.

Dydd Gwener
‘Dw i ar ddyletswydd cinio, gan fod y cogydd wedi mynd i’w wers Gymraeg. ‘Dw i’n ceisio ateb e-byst ar fy ffôn yn aros i wyau ferwi ar gyfer y salad. Mae’r ffôn yn canu. O diar, ‘dwi i fod mewn cyfarfod staff dros y we â phrif swyddfa Llenyddiaeth Cymru yng Nghaerdydd. Dwi’n cymryd rhan y cyfarfod â’m ffôn rhwng fy ysgwydd â’m clust wrth dorri tomatos, yn ceisio peidio torri fy mys drwy esbonio fy ngweledigaeth ar gyfer Rhaglen Gyrsiau 2017 i’r uwch dîm rheoli.

Cael a chael oedd hi i beidio â llosgi’r wyau ‘di’w berwi, ydi hynny’n bosib hyd yn oed? Dychwelyd i’m swyddfa i barhau â threfnu’r rhaglen. Yn anffodus dydi Dewi Prysor ddim ar gael, ond mae Ifor ap Glyn wedi dweud iawn – hwrê!

Dydd Sadwrn
Mae côr trydar y bore bach yn gloc larwm yma yn Nhŷ Newydd yng nghanol bywyd gwyllt. Codi gyda’r adar mân felly i ffarwelio â’r grŵp ac i gloi’r ganolfan dros y penwythnos. Mae rhywun eisiau prynu cofroddion munud olaf o’r siop fach, rhywun arall wedi anghofio archebu tacsi ac felly ffwrdd â ni ar wib i Fangor i ddal trên, ac yna hoe fach sydun cyn ailddechrau unwaith eto fore Llun.