• Llun:  Braslun a chynghanedd gan Manon Awst
Ysgoloriaethau Tŷ Newydd: Manon Awst
Maw 27 Mehefin 2017 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Bob blwyddyn, mae Tŷ Newydd yn dyfarnu oddeutu 20 o ysgoloriaethau i helpu unigolion i ddod ar gyrsiau i Dŷ Newydd. Gallwch ddarllen mwy am ein cronfa ysgoloriaeth a’r broses ymgeisio yma. Noddwyd yr ysgoloriaeth hon i Manon gan Gyngor Gwynedd, sydd yn hael iawn wedi dyfarnu grant strategol i’r celfyddydau i Lenyddiaeth Cymru i greu pot bwrsariaeth er mwyn cynorthwyo trigolion Gwynedd i ymweld â’r ganolfan.

Artist ac ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Bangor yw Manon Awst. Ei nod yw datblygu dull ‘site-writing’ yn Gymraeg drwy ymateb i safleoedd penodol a thirwedd drwy’r gynghanedd. Creu gosodiadau a cherfluniau yw ei gwaith yn bennaf, ond mae ysgrifennu yn chwarae rhan bwysig o’i phroses greadigol. Mae’n gweithio gan amlaf o’i stiwdio yn Twthill, yn mwynhau edrych draw dros y dref tuag at Yr Eifl a’r Fenai. Mae’n dueddol o ysgrifennu rhywbeth bob dydd yn ei llyfr bras, boed yn syniad newydd neu’n bwt i ddisgrifio ei diwrnod. Mae hyn yn arferiad ganddi ers ei harddegau ac mae’n mynd â’r llyfr bras gyda hi i bobman.

Pa ffordd well o ddysgu’r gynghanedd felly na thrwy fynychu Cwrs Cynganeddu Tŷ Newydd ym mis Ebrill 2017 dan ofal y tiwtoriaid Eurig Salisbury a Twm Morys? Meddai Manon,

“Roeddwn yn awyddus i ddod ar y cwrs i ddysgu a deall mwy am strwythur y gynghanedd, sydd wastad wedi fy niddori. Fel rhan o fy ngwaith ymchwil dwi’n ceisio datblygu ffurf o ‘site-writing’ yn Gymraeg, sef ymateb yn uniongyrchol i safleoedd penodol a thirweddau drwy ysgrifennu. Dwi’n credu fod y gynghanedd yn strwythur priodol a chyffrous iawn ar gyfer cyfleu’r tirlun Cymreig yn greadigol.

Roedd y cwrs yn anhygoel – yn sialens, ond yn llawer o hwyl – a dwi’n sicr am geisio ei fynychu eto’r flwyddyn nesa. Pan gyrhaeddais, prin oni’n gwybod unrhyw beth am y gynghanedd ac erbyn diwedd yr wythnos mi lwyddais i ysgrifennu englyn a chwpledi cywir! Mae’r cwrs wedi fy nghyflwyno i rwydwaith o feirdd sydd yn angerddol am yr iaith ac am y gynghanedd, felly dwi’n teimlo fel bod gen i gefnogaeth o fy nghwmpas – unigolion allai droi at i gael cyngor efo fy ngwaith.

Roedd bod yn y fath awyrgylch yn magu creadigrwydd a positifrwydd. Dwi wedi bod yn ysgrifennu ambell i linell bob dydd ers hynny. Mi fyswn i’n argymell unrhyw un sydd o ddifrif eisiau dysgu am y gynghanedd i fynychu’r cwrs.”

Yn dilyn y cwrs, mae Manon yn ceisio ysgrifennu cynghanedd pob dydd yn y llyfr bras.

 

I ddysgu mwy am Manon, darllenwch ei hatebion i’n holiadur pum munud:

  1. Beth yw’ch perthynas chi â Thŷ Newydd? A’i dyma’r tro cyntaf i chi ymweld â ni?

Wedi clywed llawer o bethau gwych amdano drwy ffrindiau, ond erioed wedi bod yma cyn y Cwrs Cynganeddu.

  1. Fel awdur, oes gennych chi fan neu lecyn penodol y byddwch chi’n mynd yno i ysgrifennu?

Wel, dim awdur ydw i ond artist. Creu gosodiadau a cherfluniau ydw i’n benna, ond mae sgwennu wastad wedi bod yn rhan bwysig o fy mhroses greadigol. Fel arfer dwi’n gweithio yn fy stiwdio yn Twthill, yn mwynhau edrych draw dros y dre tuag at Yr Eifl a’r Fenai. Ond mi fyddai’n sgwennu a braslunio wrth drafaelio, ac wrth ymweld â safleoedd penodol yn ymwneud â fy ngwaith celf.

  1. Ydych chi’n un o’r rheiny sydd yn dilyn routine penodol? Rheol o ysgrifennu rhywbeth bob dydd; beiro benodol; terfyn geiriau?

Dwi’n dueddol o sgwennu rhywbeth bob dydd yn fy ‘sketchbook’, boed yn syniad neu yn disgrifio fy niwrnod. Mae hyn yn routine gen i ers fy arddegau – mae sketchbook gen i lle bynnag dwi’n mynd. Erbyn heddiw dwi’n trio sgwennu o leiaf un llinell o gynghanedd bob dydd!