Cwrs Undydd: Rhannu chwedlau ddoe a heddiw

Sad 25 Maw 2017
Tiwtor / Mair Tomos Ifans
Ffi’r Cwrs / O £32.00 y pen
Genres / Adrodd StraeonPerfformio
Iaith / Cymraeg

10.00 am – 4.00 pm

Mae pob ardal yn Nghymru yn gyforiog o straeon, hanesion a chwedlau traddodiadol sydd wedi cael eu hadrodd ar hyd y cenedlaethau. Bydd y cwrs undydd hwn yn gyfle i ni rannu ein straeon lleol ni, a darganfod eich llais a’ch harddull wrth eu cyflwyno.

Caiff cinio ysgafn ei ddarparu arm 1.00 pm.

 

Tiwtor

mair-tomos-ifans-cropped

Mair Tomos Ifans

Bu Mair Tomos Ifans yn ennill bywoliaeth yn y maes perfformio ers 30 o flynyddoedd, yn gweithio fel actor, cerddor, sgriptiwr a chyfarwydd – yn adrodd straeon ac yn arwain gweithdai mewn ysgolion. Roedd yn un o sylfaenwyr Cwmni’r Fran Wen, ac mae’n aml yn portreadu Rala Rwdins.

www.mairtomosifans.com

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811