Encil y Gwanwyn: Cyngor gan Asiant Llenyddol

Llu 29 Ebrill 2024 - Gwe 3 Mai 2024
Tiwtor / Cathryn Summerhayes
Darllenydd Gwadd / Carly Reagon (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £575 y pen
Genres / FfeithiolFfuglen
Iaith / Saesneg

Ydych chi’n chwilio am gynrychiolaeth asiant am y tro cyntaf, yn edrych am ysbrydoliaeth ar gyfer eich gwaith ysgrifennu, neu’n gweithio i derfyn amser tynn? Bydd ein hencilion sydd wedi’u harlwyo’n llawn yn rhoi amser a lle i chi ysgrifennu, darllen ac ymlacio. Rydyn ni wedi’n lleoli mewn man heddychlon yn ardal odidog y gogledd orllewin, lle gallwch adael i olygfeydd syfrdanol dros Fae Ceredigion eich ysbrydoli, rhannu syniadau dros swper, neu swatio ac ymlacio yn llyfrgell glud Tŷ Newydd.

Yn ystod yr encil hwn, bydd yr asiant llenyddol Cathryn Summerhayes o Curtis Brown yno i gynnig sgyrsiau byrion a gweithdai i’r grŵp ar ddatblygiad proffesiynol, gan gynnwys arfer da wrth ddod o hyd i asiant, sut i gael eich gwaith wedi’i gyhoeddi, cyngor am y diwydiant, a mwy. Bydd Cathryn hefyd ar gael ar gyfer tiwtorial un-i-un byr gyda phob awdur, i drafod eich gwaith a’ch nodau, a byddwch yn cael eich gwahodd i anfon darn o’ch gwaith ymlaen llaw.

Ar ein hencilion, bydd gan bawb ystafell eu hunain, a bydd eich prydau cartref yn cael eu paratoi gan ein cogydd preswyl profiadol. Rydyn ni’n cynnig ystod o ystafelloedd gyda hygyrchedd a phrisiau amrywiol. Holwch am ragor o wybodaeth am ystafelloedd unigol cyn archebu. Bydd gwesteion yn cael eu gwahodd i gyrraedd ar ôl cinio ddydd Llun, a gadael yn fuan wedi brecwast ddydd Gwener.

Tiwtor

Cathryn Summerhayes

Ail ymunodd Cathryn Summerhayes ag asiantaeth Curtis Brown ym Medi 2016, a hithau wedi cychwyn ei gyrfa fel asiant llenyddol yn wreiddiol yn 2004. Sefydlodd restr amrywiol o gleientiaid i asiantaeth WME lle bu’n gweithio am ddegawd. Cyn hynny bu’n gweithio i sawl asiantaeth llenyddol arall a gyda Colman Getty PR – lle bu’n gweithio ar sawl digwyddiad llenyddol mawr gan gynnwys Gwobr y Man Booker a Gwobr Samuel Johnson. Mae Cathryn hefyd yn gweithio yn swyddfa gynhyrchu Gŵyl Lenyddol Port Eliot, ac yn cymryd rhan yng ngwyliau Rhyngwladol y Gelli a Chaeredin yn rheolaidd. Yn 2016 fe’i henwebwyd ar gyfer gwobr Asiant y Flwyddyn yn y British Book Awards, ac ymysg ei chleientiaid y mae Dr Adam Kay, Mark Watson, Naomi Wood, Kirsty Logan, Susan Fletcher, Johanna Basford, Sir Ranulph Fiennes, Lucy Foley, Russell Norman, Mark Hix a Clemmie Hooper.

Darllenydd Gwadd

Carly Reagon (Digidol)

Mae Carly Reagon yn byw yng nghefn gwlad de Cymru, ychydig y tu allan i Gaerdydd, gyda'i gŵr a'i thri o blant ifanc. Dechreuodd ysgrifennu straeon pan oedd hi'n saith oed. Yn 2017 dilynodd gwrs gyda Curtis Brown Creative ac, yn 2019, roedd ar restr fer Gwobr Ffuglen Lucy Cavendish. Mae hi'n ffitio ei hysgrifennu o amgylch gweithio fel uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd a gofalu am ei phlant a milgi sy'n dueddol o  gael damwain (y milgi, nid y plant). Ar wahân i ysgrifennu, mae hi wrth ei bodd yn crwydro o gwmpas safleoedd hanesyddol, yn rhedeg trwy gefn gwlad Cymru, ac yn pobi (a bwyta) cacennau fegan. Ei nofel gyntaf, The Toll House, stori ysbryd a gyhoeddwyd gan Little, Brown UK yn 2022, oedd llyfr Cymraeg y mis Waterstones ym mis Hydref 2023. Bydd ei hail nofel, Hear Him Calling, stori ysbryd arall, yn cael ei chyhoeddi gan Little, Brown yn 2024. 

 

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811