logo-ty-newydd

Cofrestrwch ar gyfer ein Cylchlythyr

English
  • Amdanom ni
    • Tŷ Newydd
    • Y Tŷ
    • Llanystumdwy a’r Ardal leol
  • Ein Cyrsiau
    • Cyrsiau ac Encilion
    • Mathau o Gyrsiau
    • Beth i’w ddisgwyl
    • Cymorth Ariannol
    • Ysgolion
  • Encil Awduron Nant
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Gwneud Gwahaniaeth
    • Prosiectau
    • Tystlythyrau
    • Straeon Llwyddiant
  • Blog
  • Cysylltu
  • Llenyddiaeth Cymru
  • Amdanom ni
    • Tŷ Newydd
      • Tîm Tŷ Newydd
      • Oriel
      • Cwestiynau Cyffredin
      • Dewch o hyd i ni
    • Y Tŷ
      • Hanes
      • Llety
        • Opsiynau Llety
      • Hygyrchedd
      • Llogi Tŷ Newydd
    • Llanystumdwy a’r Ardal leol
      • David Lloyd George
  • Ein Cyrsiau
    • Cyrsiau ac Encilion
    • Mathau o Gyrsiau
    • Beth i’w ddisgwyl
    • Cymorth Ariannol
    • Ysgolion
  • Encil Awduron Nant
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Gwneud Gwahaniaeth
    • Prosiectau
    • Tystlythyrau
    • Straeon Llwyddiant
  • Blog
  • Cysylltu
  • Llenyddiaeth Cymru
  • Llun:  https://www.tynewydd.cymru/wp-content/uploads//2022/09/061_ffN_0185-1-300x200.jpg

Encil Awduron Nant





























































 

Croeso i Nant; hen fwthyn Gradd II* sydd wedi ei ail gynllunio’n arbennig ar gyfer encilion ysgrifennu. Wedi ei leoli ar safle Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, mae’r bwthyn hunan-arlwyo yma yn darparu hafan gyffyrddus a thawel i unrhyw un sydd angen canolbwyntio ar waith ar y gweill, ychwanegu’r manylion olaf un i’ch gwaith ysgrifennu, neu i ailgynnau eich creadigrwydd.

Yn eistedd rhwng y môr a’r mynyddoedd, mae Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd wedi ei lleoli ym mhentref Llanystumdwy yn agos i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Pen Llŷn. Mae milltiroedd o lwybrau arfordirol a choedwigol gerllaw i’w harchwilio ac i ysbrydoli.






Gwybodaeth Ymarferol

Cynlluniwyd y bwthyn yn arbennig i ddarparu gofod pwrpasol a thawel i chi ganolbwyntio ar ysgrifennu. Mae Nant yn cynnwys: cegin fawr fodern, dwy ystafell wely ddwbl â gwelyau maint King sydd â desgiau ysgrifennu, ystafell ymolchi gyda chawod cerdded i mewn. Mae Wi-Fi ar gael drwy’r tŷ, ac mae ardal eistedd glyd yn aros amdanoch yn y lolfa ar ôl diwrnod hir o ysgrifennu.

Mae encilion ar gael am arosiadau tair noson (Gwener i Llun), pedair noson (Llun i Gwener), neu saith noson (Llun i Llun). Fel arfer, bydd gan ymwelwyr fynediad i erddi Tŷ Newydd, ein casgliadau llyfrgell eang, a bydd staff Llenyddiaeth Cymru bob amser ar gael i drafod ein rhaglenni a’n cyfleoedd Datblygu Awduron. Hunan-arlwyo yw’r encilion, mae gan y bwthyn gegin fawr fodern gyda phopty, microdon, tegell a thostiwr. Tra fod cyrsiau preswyl yn digwydd yn y ganolfan, gall opsiynau arlwyo fod yn bosib am ffi ychwanegol. Cysylltwch â ni i drafod hyn ymhellach.

Mae’r prisiau, sy’n cychwyn o £300, yn seiliedig ar un person yn aros i sicrhau eich bod yn derbyn y tawelwch a’r heddwch sydd ei angen i ganolbwyntio. Fodd bynnag mae dwy ystafell wely, ac os hoffech archebu lle i ddau bydd posib gwneud hynny am ffi ychwanegol fechan:

 

Nosweithiau Pris 1 awdur Pris 2 awdur
Llun – Gwener (4 noson) £400 £500
Gwener – Llun (3 noson) £300 £375
Llun – Llun (7 noson) £650 £800

 

I archebu encil, gallwch wirio dyddiadau ag archebu arlein isod. Neu gallwch gysylltu â ni i archebu’n uniongyrchol.

Am fwy o fanylion am Encil Awduron Nant, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin.

 

 

Archebu Lle

2023

Argaeledd

Chwefror

Sul 5 – Iau 9 Chwefror (£400)

Mercher 15 – Llun 20 Chwefror (£500)

Gwener 24 – Llun 27 Chwefror (£300)

 

Mawrth

Gwener 3 – Llun 6 Mawrth (£300)

 

Ebrill

Gwener 31 Mawrth – Gwener 7 Ebrill (£650)

Llun 10 – Llun 17 Ebrill (£650)

 

Mai

Llun 1 – Llun 15 Mai (o £300, yn ddibynol ar nifer y nosweithiau)

Gwener 19 – Llun 22 Mai (£300)

 

Mehefin

Gwener 2 – Sul 4 Mehefin (£200)

Sadwrn 10 – Llun 19 Mehefin (o £300, yn ddibynol ar nifer y nosweithiau)

Llun 26 – Gwener 30 Mehefin (£400)

 

Cysylltwch â ni os hoffech chi archebu eich lle, neu i holi am ddyddiadau o fis Gorffennaf ymlaen.

Dewislen

  • Cwestiynau Cyffredin

logo-literature-wales

logo-ty-newydd

icon-social-facebook  icon-social-twitter  icon-social-instagram  icon-social-flickr

icon-social-facebook  icon-social-twitter  icon-social-instagram  icon-social-flickr

© Llenyddiaeth Cymru
  • Fy Nghyfrif
  • Telerau ac Amodau Archebu
  • Telerau ac Amodau Llenyddiaeth Cymru
  • Hysbysiad Preifatrwydd GDPR
  • Polisi Cwcis
  • Crëwyd gan Creo
  • Llenyddiaeth Cymru
Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0LW. 01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org

gov-logo

arts-logo