Croeso i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd

Tŷ Newydd yw Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru. Ers agor ein drysau yn 1990, mae miloedd o awduron wedi camu dros drothwy ein drws gwyrddlas eiconig.

Ein arbenigedd yw trefnu cyrsiau ysgrifennu creadigol preswyl. Rydym yn croesawu grŵp newydd i’n cartref bob wythnos – yn gymysgedd unigryw o unigolion o Gymru, y Deyrnas Unedig, a phob cwr o’r byd. Maent yn treulio amser gyda’i gilydd dan arweiniad awduron proffesiynol, yn cymryd rhan mewn gweithdai a thiwtorialau un-i-un, yn mwynhau darlleniadau, ac yn ymhyfrydu yn awyrgylch ysbrydoledig Tŷ Newydd.

Darllen Mwy


Porwch drwy ein Cyrsiau

Mae gennym ddewis eang o gyrsiau ac encilion ar gael yn Nhŷ Newydd. Cymrwch olwg i weld beth sydd ar gael.

Gweld pob Cwrs
Cydio yn Awen Enlli


Wedi gwerthu i gyd

Tiwtoriaid / Jon Gower, Elinor Gwynn
Darllenydd Gwadd / Iestyn Tyne
Gweld Manylion
Encil y Gwanwyn: Cyngor gan Asiant Llenyddol
Llu 29 Ebrill 2024 - Gwe 3 Mai 2024
Tiwtor / Cathryn Summerhayes
Darllenydd Gwadd / Carly Reagon (Digidol)
Gweld Manylion
Barddoniaeth: Gwenu yn Llygaid y Storm
Llu 13 Mai 2024 - Gwe 17 Mai 2024
Tiwtoriaid / Inua Ellams, Hanan Issa
Darllenydd Gwadd / Momtaza Mehri (Digidol)
Gweld Manylion
Encil Nofio Gwyllt
Gwe 17 Mai 2024 - Sul 19 Mai 2024
Tiwtor / Emma Senior (Wild Wales)
Gweld Manylion
Cwrs Preifat: Ysgrifennu’r Gerdd
Sul 26 Mai 2024 - Gwe 31 Mai 2024
Tiwtoriaid / Vicky Morris, Vanessa Lampert
Darllenydd Gwadd / Warda Yassin
Gweld Manylion
  • Rhys Iorwerth

    Bardd, cyfieithydd ac ysgrifennwr copi llawrydd yw Rhys Iorwerth. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a’r Fro 2011 ac ef oedd Prifardd Coronog Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023. Enillodd Wobr Farddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2015. Cyhoeddodd dair cyfrol o farddoniaeth, Un Stribedyn Bach (Gwasg Carreg Gwalch, 2014), Carthen Denau: Cerddi’r Lle Celf 2019 (Cyhoeddiadau’r Stamp, 2019) a Cawod Lwch (Gwasg Carreg Gwalch, 2021) ac un gyfrol o ryddiaith, Abermandraw (Gwasg Gomer, 2017). Mae wedi cynnal dosbarthiadau cynganeddu yng Nghaerdydd a Chaernarfon ers dros ddegawd ac mae’n un o sefydlwyr nosweithiau barddoniaeth Bragdy’r Beirdd.

    Darllen Mwy
  • Georgia Ruth

    Cyfansoddwraig o Aberystwyth yw Georgia Ruth. Gan ddefnyddio dylanwadau gwerin i greu sain cwbl unigryw, enillodd ei halbwm gyntaf Week of Pines y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2013, a chafodd ei henwebu am ddwy Wobr Werin BBC Radio 2. Ers hynny, mae wedi rhyddhau dwy albwm arall ac EP, wedi gweithio gyda’r Manic Street Preachers, ac yn llais cyfarwydd ar BBC Radio Cymru, lle mae’n cyflwyno rhaglen wythnosol sy’n dathlu cyfuniad o gerddoriaeth ryngwladol ac o Gymru.  

    Darllen Mwy
  • Llwyd Owen

    Mae Llwyd Owen wedi cyhoeddi pymtheg nofel ers 2006, gan gynnwys Ffydd Gobaith Cariad (Y Lolfa, 2006), a enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn 2007, Iaith y Nefoedd (Y Lolfa, 2019), a gyrhaeddodd restr fer yr un gystadleuaeth yn 2019, a saith nofel drosedd yng nghyfres barhaus Gerddi Hwyan, sy’n dilyn hynt a helynt heddlu a thrigolion y dref ddychmygol sydd wedi’i disgrifio fel “Cwmderi ar crac” gan un adolygydd. Yn ogystal ag ysgrifennu llyfrau, mae Llwyd yn gyfieithydd ac yn diwtor ysgrifennu creadigol profiadol. Mae’n byw yng Nghaerdydd, tref ei febyd, gyda’i wraig, ei blant a’i gi. 

    Darllen Mwy
  • Manon Steffan Ros

    Mae Manon Steffan Ros wedi ysgrifennu’n helaeth ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion. Cychwynnodd ei gyrfa ym myd y ddrama fel actores, ac enillodd Fedal Ddrama’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2004 a 2005. Enillodd Wobr Tir na n-Og bum gwaith, yn fwyaf diweddar yn 2020 am y llyfr Pobol Drws Nesaf (Y Lolfa) a gyd-ysgrifennodd â’r darlunydd Jac Jones. Enillodd Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 gyda’i chyfrol boblogaidd Llyfr Glas Nebo (Y Lolfa)ac fe aeth ymlaen i ennill y wobr driphlyg yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn 2019. Addaswyd Llyfr Glas Nebo i ddrama lwyfan gan gwmni’r Frân Wen, a cafodd hefyd ei chyfieithu i sawl iaith. Mae Manon yn cyfrannu ysgrif wythnosol i gylchgrawn Golwg. Enillodd ei chyfieithiad, The Blue Book of Nebo (Firefly, 2022), Fedal Yoto Carnegie 2023. 

    Darllen Mwy

Ein Blog

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi lansio Dy Bennod Nesaf – rhaglen amrywiol o gyrsiau ac encilion ysgrifennu creadigol i’ch helpu i ddod â’ch straeon a’ch...
Llu 17 Gorffennaf 2023
Ymunodd Romy â ni yma yn Nhŷ Newydd ar gwrs penwythnos o Ysgrifennu Creadigol i Ddysgwyr Cymraeg ar ddechrau mis Gorffennaf gyda’r tiwtoriaid Bethan...