Mae Kaite O'Reilly yn gweithio’n rhyngwladol fel dramodydd, dramaturg a thiwtor. Enillodd wobr Ted Hughes am Weithiau Newydd mewn Barddoniaeth am ei fersiwn o The Persians i National Theatre Wales yn eu blwyddyn gyntaf. Ymysg ei gwobrau eraill y mae Gwobr Peggy Ramsay, Gwobr Theatr Cymru, Gwobr Theatr Manceinion, a chlod anrhydeddus yng Ngwobr Jane Chambers a Gwobr Rhyngwladol Elliot Hayes am Gyrhaeddiad Rhagorol am Ddramäwriaeth. Cyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr Ryngwladol Susan Smith Blackburn i ddramodwyr benywaidd a Gwobr James Tait Black am ddrama ddwywaith. Mae ei gwaith wedi ei gynhyrchu mewn pymtheg gwlad dros y byd, y mwyaf diweddar yw Told by the Wind, Lie with Me a peeling. Mae ei dramâu Atypical Plays for Atypical Actors (2016) a’r The 'd' Monologues (2018) wedi eu cyhoeddi gan Oberon. Mae’n dysgu dramayddiaeth yn yr Intercultural Theatre Institute yn Singapore ac yn noddwr i DaDaFest.
www.kaiteoreilly.com
www.kaiteoreilly.wordpress.com
@kaiteoreilly
Ail-ddyfeisio’r Prif Gymeriad
Mae’r cwrs hwn yn addas i awduron pob genre – o farddoniaeth, i ryddiaith, i sgriptio a pherfformio – a bydd yn cynnig safbwyntiau ac agwedd newydd i chi ar eich gwaith. Gan ddefnyddio’r enghreifftiau gorau o farddoniaeth, rhyddiaith a dramâu wedi eu hysgrifennu gan awduron anabl a Byddar, bydd gweithdai grŵp yn eich gwahodd i ystyried sut i fod yn fwy cynhwysol a chynrychiadol wrth greu cymeriadau, safbwyntiau, naratif, a bydoedd dychmygol. Trwy drafodaethau ac ymarferion ysgrifennu, byddwch yn cael eich annog i edrych ar eich gwaith o’r newydd. Byddwn yn herio’r stereoteip, yn ystyried naratif newydd, prif gymeriadau unigryw, diweddgloeon annisgwyl, a geirfa rymus a newydd i adrodd ein hanesion. Dan arweiniad yr awdur rhyngwladol enwog, Kaite O’Reilly, bydd y cwrs hwn yn eich gyrru adref gydag agwedd – a sawl syniad – newydd sbon.
Bydd siaradwyr gwadd yn ymweld yn ystod yr wythnos i siarad am eu gwaith, ac i ateb eich cwestiynau.
Mae’r cwrs hwn yn addas i awduron sydd â phrofiad bywyd o beidio â medru uniaethu gyda’r stereoteip o brif gymeriad, neu i’r rheiny sydd yn awyddus i herio’r drefn. Byddwn yn croesawu awduron profiadol a newydd sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu.
Tiwtor
