Bardd, awdur a dawnsiwr Indiaidd-Gymreig yw Tishani Doshi. Y mae hi wedi cyhoeddi saith o gyfrolau ffuglen a barddoniaeth. Ei chyfrol ddiweddaraf yw A god at the Door (Bloodaxe, 2021), a gyrhaeddodd restr fer y Forward Prize 2021. Yn 2006, enillodd y Forward Prize am ei llyfr barddoniaeth cyntaf, Countries of the Body (Harper Collins). Am bymtheg mlynedd, mae hi wedi gweithio fel dawnsiwr gyda grŵp Chandrelakha yn Chennai. Ar hyn o bryd, mae Tishani yn Athro Cyswllt yn NYU Abu Dhabi ac fel arall yn byw yn Tamil Nadu, India. www.tishanidoshi.com
Barddoniaeth a Gobaith
Cwrs fydd yn canolbwyntio ar ysgrifennu am bynciau’n codi o’r dirwedd neu o fytholeg fydd hwn. Grym barddoniaeth yw’r gallu i ryfeddu hyd yn oed mewn cyfnod anodd fel sydd arnom heddiw. Ond nod ein cwrs fydd troi’r dychymyg yn feysydd llawn gobaith a llawenydd. Byddwn hefyd yn bwrw ati i arbrofi gyda dyfnhau’r dulliau gwahanol o greu — a chreu mannau diogel a ‘llonydd le’ i ganfod ac arbrofi gweithiau mewn awyrgylch tosturiol. Gobeithiwn gyd-ryfeddu wrth rannu (neu beidio) y weithred a’r broses. Cael ymdeimlad o foddhad yw hanner y dasg o gyfansoddi a hynny gyda help llaw — wrth law. Felly dewch i brofi profiad arall-fydol.
Mae’r cwrs hwn yn addas i feirdd newydd a rhai â pheth profiad sy’n edrych i gael arbrofi ymhellach â’u barddoniaeth.
Bydd y gweithdai yn Saesneg, ond mae modd i chi dderbyn adborth ar eich gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg.
Tiwtoriaid

Tishani Doshi

Menna Elfyn
Bardd arobryn yw Menna Elfyn, a dramodydd sydd wedi cyhoeddi 15 cyfrol o farddoniaeth, yn ogystal â nofelau i blant, libretti ar gyfer cyfansoddwyr niferus, a dramâu ar gyfer radio a theledu yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Cyhoeddodd nifer o gyfrolau dwyieithog megis Murmur (Bloodaxe Books, 2012) (a ddyfarnwyd iddi Poetry Book Society Recommended Translation) a Bondo (Bloodaxe Books, 2017). Cyfieithwyd ei gwaith i ugain o ieithoedd. Cyhoeddwyd llên-gofiant Cennad yn 2018 (Bloodaxe Books, 2018), a Cwsg (Gomer, 2019), cyfrol o ryddiaith greadigol yn 2019, a enillodd Wobr Cymru Greadigol. Cyhoeddwyd Tosturi (Mercy) yn 2022 gan Gyhoeddiadau Barddas. Mae’n Athro Emerita gyda Phrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant ac yn Lywydd Wales PEN Cymru. Yn 2022, derbyniodd Menna Wobr Chomondeley gan y Society of Authors am ei chyfraniad amhrisiadwy i farddoniaeth Gymreig, yma yng Nghymru, o fewn y DU ac yn rhyngwladol.
Darllenydd Gwadd

John Burnside
Mae John Burnside yn fardd ac yn awdur, sydd a’i waith wedi ei gyfieithu i dros ddwsin o ieithoedd gwahanol. Fe enillodd ei gasgliad Black Cat Bone (Cape, 2011) wobr T.S. Eliot a Gwobr y Forward Prize yn 2012. Ers sawl blwyddyn bellach, mae John wedi ysgrifennu ar faterion amgylcheddol mewn nifer o gyhoeddiadau gwahanol o Nature i’r Frankfurter Allgemeine Zeitung i The New Statesman. Ymysg pethau eraill, mae’n dysgu Llenyddiaeth ac Ecoleg yn Ysgol y Saesneg, ym Mhrifysgol St Andrews. Ei gasgliad diweddaraf yw Learning to Sleep (Cape, 2021).