Llyfr yn ymateb i’r argyfwng hinsawdd oedd Insistence (Bloodaxe, 2018) gan Ailbhe Darcy a enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn, Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias a’r Piggott Prize for Poetry, a cyrhaeddodd restr fer Gwobr T.S. Eliot. Gyda S.J. Fowler, hi yw cyd-awdur Subcritical Tests (Gorse, 2017), casgliad o farddoniaeth ar y cyd am y bom atomig. Hi yw awdur A History of Irish Women’s Poetry (Cambridge University Press, 2020). Mae’n dysgu ysgrifennu creadigol a llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cynnwys cwrs ar ymgyrchu trwy farddoniaeth.
Barddoniaeth a’r Argyfwng Hinsawdd
Beth yw rôl barddoniaeth mewn argyfwng? Sut all ffurf, naws neu ymdriniaeth cerdd esblygu mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd? Sut all barddoniaeth ein helpu i barhau, i oroesi i wrthsefyll? A sut all barddoniaeth ddod â chysur neu annog gweithredu?
Mae croeso i ddechreuwyr ac i awduron mwy profiadol i ymuno â ni i geisio datrys y cwestiynau yma.
Gyda’n gilydd, byddwn yn darllen gwaith sydd yn delio yn uniongyrchol, ac yn anuniongyrchol, â newid hinsawdd gan ganolbwyntio ar strategaethau y mae beirdd cyfoes wedi eu defnyddio i’n helpu ni i weld y pwnc brys, lletchwith, llethol hwn â llygaid newydd. Byddwn yn chwilio am ysbrydoliaeth yn y tirwedd o’m gwmpas hefyd, gan archwilio ffyrdd i ymwneud â’r newidiadau i’n amgylchedd naturiol. Bydd cyfle i chi drio â dulliau newydd, gan arbrofi â ffurfiau, synau a iaith, a chyfle hefyd i ystyried sut all barddoniaeth ar y thema o argyfwng hinsawdd gyffwrdd rhywun, a chael effaith, tu hwnt i’r dudalen. Drwy ymroi yn llwyr i ymateb yn greadigol i’r pwnc dwys hwn, byddwn yn gadael y cwrs yn llawn egni, yn obeithiol, ac â llond gwlad o gerddi a syniadau newydd.
Tiwtoriaid

Ailbhe Darcy

Susan Richardson
Cyhoeddodd Susan Richardson ei phedwaredd casgliad o gerddi, Words the Turtle Taught Me (Cinnamon Press, 2018), ar y thema o rywogaethau môr sydd mewn perygl, yn dilyn preswylfa gyda Chymdeithas Cadwraeth Morol (Marine Conservation Society) a chyrhaeddodd restr fer Gwobr Ted Hughes. Yn ogystal â’i phreswylfa cyfresol gyda’r British Animal Studies Network, gyda chymorth Prifysgol Strathclyde, mae’n cynnal gweithdai ar amrywiaeth o themâu amgylcheddol i sefydliadau fel y WWF, yr Ymddiriedolaethau Natur a’r RSPB. Mae Susan wedi perfformio ei gwaith ar BBC 2, BBC Radio 3 a BBC Radio 4, ac mewn gwyliau yn lleol a thros y byd.