Katherine Langrish yw awdurWest of the Moon (Harper Collins, 2011) a Dark Angels (Harper Collins, 2009); a'i chyhoeddiad mwyaf diweddar yw Seven Miles of Steel Thistles: Reflections on Fairy Tales (The Greystones Press, 2016) llyfr o ysgrifau am y tylwyth teg a chwedloniaeth wedi ei seilio ar flog o'r un enw. Mae'n adolygu'n gyson ar gyfer cyfnodolyn y Sussex Folklore Centre, Gramarye.
www.katherinelangrish.co.uk
Chwedlau Tylwyth Teg
Bydd y cwrs hwn yn mentro i goedwig dywyll straeon tylwyth teg drwy gestyll rhyfeddol y Mabinogi i ddarganfod sut y medrwn ail-gyflwyno hen chwedlau traddodiadol mewn cerddi a rhyddiaith modern. Byddwn yn trafod swynion a melltithion, cyrchoedd a dialedd, breuddwydion a dymuniadau, ac yn agor y drws i’r posibiliadau di-ddiwedd mae’r straeon hyn yn ei gynnig i awdur. Drwy weithio â dau awdur sydd wedi ennill nifer o wobrau yn y maes hwn, dyma eich cyfle i gael mynediad i fydoedd fydd yn ysbrydoli eich ysgrifennu ac yn rhyddhau eich creadigrwydd.
Tiwtoriaid

Katherine Langrish

Catherine Fisher
Mae Catherine Fisher yn awdur nifer o nofelau i blant a phobl ifanc sydd wedi ennyn edmygedd beirniaid. Roedd ei chyfrolau Incarceron (2007) a Sapphique (2008), a gyhoeddwyd gan Hodder Children’s Books, ar restrau gwerthwyr gorau’r New York Times ac maent wedi’u cyfieithu i dros ugain o ieithoedd. Cyrhaeddodd The Oracle (2003) restr fer Gwobr Whitbread. Enillodd Corbenic (Red Fox Books, 2002) Wobr Mythopoeig Cymdeithas Ffantasi Prydain, ac enillodd The Clockwork Crow (Firefly Press, 2018) wobr Tir na n-Og yn ddiweddar. Mae hi hefyd wedi cyhoeddi pum cyfrol o gerddi ac mae’n un o gyn-enillwyr Gwobr Farddoniaeth Ryngwladol Caerdydd. Mae Catherine yn athrawes ac yn ddarlledwraig brofiadol. Hi oedd Awdur Ieuenctid cyntaf Cymru.
www.catherine-fisher.com
Darllenydd Gwadd

Matthew Francis
Mae Matthew Francis yn awdur ar chwe chyfrol o gerddi, gan gynnwys ei gyfrol ddiweddaraf The Mabinogi (Faber, 2017), dwy nofel a chasgliad o straeon byrion. Golygodd argraffiad diweddaraf o New Selected Poems W.S. Graham (Faber) a gyhoeddwyd ym mis Medi 2018. Mae’n Athro mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.