Bu Daniel Morden yn adrodd straeon traddodiadol ers 1989. Mae wedi rhannu chwedlau ym mhedwar ban byd, o’r Arctig i’r Môr Tawel i’r Caribî. Mae’n enwog am ei gyflwyniadau gloyw o chwedlau Groeg, ac am ei angerdd wrth berfformio straeon Cymru. Mae’n awdur sawl cyfrol o straeon gwerin, gan gynnwys Dark Tales from the Woods (Gomer, 2006) a enillodd Wobr Tir na n-Og. Yn 2018 enillodd Fedal Gŵyl y Gelli am adrodd straeon.
Crefft y Cyfarwydd: Penwythnos Adrodd Straeon
Hanesion gwerin, straeon tylwyth teg a chwedlau ein hynafiaid yw cerrig sylfaen pob stori sydd wedi’i hadrodd erioed, gan gynnwys dramâu, nofelau, barddoniaeth a sgriptiau ffilm. Mae’r hen chwedlau hyn yn dal i ysbrydoli beirdd, artistiaid, awduron a dramodwyr heddiw. Wedi’r cyfan, mae ein straeon traddodiadol – yr arswydus, yr hudolus, y teimladwy a’r dwys – yn diffinio profiadau pobl. Mae cryn fri o’r newydd ar adrodd straeon ar lafar, wrth i oedolion ymgynnull yn gyson i glywed a rhannu hanesion traddodiadol ym mhob cwr o’r wlad. Cwrs adrodd straeon ar lafar i ddechreuwyr yw hwn – ac i’r rheini sy’n dychwelyd at y grefft – ac mae’n gyfle i ddysgu sut i addasu a chyflwyno’r chwedlau a’r straeon gwerin sy’n rhan o’n hanfod ni fel pobl.
Tiwtoriaid

Daniel Morden

Phil Okwedy
Ac yntau wedi’i eni yng Nghaerdydd i fam o Gymru a thad o Nigeria, mae Phil Okwedy yn berfformiwr sy’n adrodd straeon ac yn creu chwedlau, gan seilio hynny ar ei dreftadaeth ddeuol a diwylliannau amrywiol. Mae’n perfformio’n rheolaidd mewn clybiau adrodd straeon, ac mae wedi ymddangos yn Beyond the Border a Gŵyl Adrodd Straeon Aberystwyth, ynghyd â Gŵyl Kea yng Ngwlad Groeg a Gŵyl Fabula yn Sweden. Yn 2018, cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, sef Wil & the Welsh Black Cattle (Gomer, 2018). Ynddo mae’n adrodd cyfres o straeon gwerin wedi’u seilio ar fytholeg yr hen borthmyn. Yn 2021, enillodd le ar raglen Cynrychioli Cymru Llenyddiaeth Cymru, rhaglen ddatblygu awduron. Mae ar hyn o bryd yn gweithio ar waith ffeithiol-greadigol sy’n gweu chwedlau, stori bersonol, a chyfres o lythyrau a ysgrifennwyd gan ei dad i’w fam.