Ganwyd Marvin Thompson yn Llundain i rieni o Jamaica, ac mae bellach yn byw mewn ardal fynyddig yn y de. Mae’n awdur, athro a gwneuthurwr ffilm. Dewiswyd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Road Trip (Peepal Tree Press, 2020), fel un o Argymhellion Barddoniaeth y Book Society. Ym Mehefin 2020, dewisodd y Poetry Society Road Trip fel un o bum llyfr a argymhellwyd i’w darllen yn dilyn ymgyrch Mae Bywydau Duon o Bwys. Dewiswyd Road Trip hefyd fel un o 40 o lyfrau a argymhellwyd yn swyddogol i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth 2020, a disgrifiwyd y casgliad gan The Guardian fel “[an] invigorating journey through the complexities of black British family life.” Dewiswyd Road Trip gan The Telegraph fel un o Lyfrau Barddoniaeth y Flwyddyn 2020.
Cwrs Blasu Digidol: Barddoni am Le
12.00 – 1.30 pm dydd Gwener 19 Chwefror 2021
Ymunwch â Marvin Thompson am weithdy digidol awr o hyd i edrych ar ysgrifennu barddoniaeth am le. Oes gennych hoff leoliad, golygfa, atgof o le sy’n codi hiraeth ac yn menthyg ei hun i ddelwedd farddonol? Neu a oes straeon yn llechu dan eich traed, hen hanes sy’n aros am y cyfle i gael ei adrodd? Bydd Marvin yn rhoi blas ar sut i fynd ati i gyfleu’r ymdeimlad o le mewn cerdd, a byddwch yn gadael y cwrs gyda syniad o sut i barhau. Bydd y gweithdy ei hun yn para awr, ond mae amser wedi ei neilltuo er mwyn croesawu pawb ar y cychwyn ac i holi cwestiynau a sgwrsio ar y diwedd.
Bydd cyrsiau blasu Tŷ Newydd yn ymweld â sawl pwnc a genre gwahanol yn y Gymraeg a’r Saesneg, i’ch annog i gychwyn, neu barhau, â’ch ysgrifennu creadigol yn ystod misoedd y gaeaf. Bydd y niferoedd ar gyfer pob cwrs blasu’n cael eu cyfyngu i 16, a caiff y cwrs ei gynnal dros y platfform fideo Zoom. Gobeithio y cewch flas ar y cwrs, ac y cawn eich croesawu i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy ar gwrs hwy pan fydd hi’n ddiogel i ail-agor.
Noder os gwelwch yn dda mai cwrs drwy gyfrwng y Saesneg fydd hwn.
Nod Llenyddiaeth Cymru yw galluogi pawb fyddai’n elwa o fynychu un o gyrsiau Tŷ Newydd i wneud hynny, beth bynnag fo’u incwm neu lefel o brofiad, ac mae awduron ar incwm isel wedi eu adnabod gan Llenyddiaeth Cymru fel un o dair nodwedd penodol y bydd Llenyddiaeth Cymru yn canolbwyntio arnynt gyda’n gwaith. Felly, os na fedrwch fforddio ffi y cwrs, peidiwch oedi cysylltu i holi am le am ddim sydd wedi eu neilltuo i’r pwrpas hwn. Noder os gwelwch yn dda y byddwn ni fel arfer yn derbyn nifer fawr o geisiadau, ac er y byddwn yn ceisio ein gorau glas – yn anffodus ni allwn addo lle am i ddim i bawb fydd yn cysylltu.
Tiwtor
