Cwrs Blasu Digidol: Barddoni i Blant

Gwe 12 Mawrth 2021
Tiwtor / Mererid Hopwood
Ffi’r Cwrs / O £9 y pen
Genres / BarddoniaethYsgrifennu i Blant a Phobl Ifainc
Iaith / Cymraeg

12.00 – 1.30 pm dydd Gwener 12 Mawrth 2021

Ymunwch â’r Prifardd Mererid Hopwood i edrych ar y grefft o ysgrifennu barddoniaeth addas i blant. Byddwn yn cael cipolwg ar greu rhigymau neu gerddi i ddal dychymyg cynulleidfa ifainc, gan geisio creu stori a delwedd apelgar drwy arbrofi ag odlau a chymeriadau hoffus. Bydd y cwrs ei hun yn para awr, ond mae amser wedi ei neilltuo er mwyn croesawu pawb ar y cychwyn ac i holi cwestiynau a sgwrsio ar y diwedd.

Bydd cyrsiau blasu Tŷ Newydd yn ymweld â sawl pwnc a genre gwahanol yn y Gymraeg a’r Saesneg, i’ch annog i gychwyn, neu barhau, â’ch ysgrifennu creadigol yn ystod y cloi mawr. Bydd y niferoedd ar gyfer pob cwrs blasu’n cael eu cyfyngu i 16, a caiff y cwrs ei gynnal dros y platfform fideo Zoom. Gobeithio y cewch flas ar y cwrs, ac y cawn eich croesawu i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy ar gwrs hwy pan fydd hi’n ddiogel i ail-agor.


 

Nod Llenyddiaeth Cymru yw galluogi pawb fyddai’n elwa o fynychu un o gyrsiau Tŷ Newydd i wneud hynny, beth bynnag fo’u incwm neu lefel o brofiad, ac mae awduron ar incwm isel wedi eu adnabod gan Llenyddiaeth Cymru fel un o dair nodwedd penodol y bydd Llenyddiaeth Cymru yn canolbwyntio arnynt gyda’n gwaith. Felly, os na fedrwch fforddio ffi y cwrs, peidiwch oedi cysylltu i holi am le am ddim sydd wedi eu neilltuo i’r pwrpas hwn. Noder os gwelwch yn dda y byddwn ni fel arfer yn derbyn nifer fawr o geisiadau, ac er y byddwn yn ceisio ein gorau glas – yn anffodus ni allwn addo lle am i ddim i bawb fydd yn cysylltu.

Tiwtor

Mererid Hopwood

Enillodd Mererid Hopwood Gadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu’n fardd Plant Cymru ac enillodd wobr Tir na n-Og am ei nofel i blant, Miss Prydderch a’r Carped Hud (Gwasg Gomer) yn 2018. Enillodd ei chasgliad o gerddi, Nes Draw (Gwasg Gomer, 2015), wobr barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2016. Bu’n cydweithio â cherddorion yn cynnwys Karl Jenkins, Gareth Glyn a Robat Arwyn ac yn cymryd rhan mewn gwyliau llenyddol yn Ewrop, Asia a De America. Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Ddysgedig, yn gadeirydd Cymdeithas y Cymod, yn llywydd anrhydeddus Cymdeithas Waldo Williams, ac yn Gymrawd Rhyngwladol Cymru Greadigol i Ŵyl y Gelli. Bu’n Athro yn yr Athrofa, Y Drindod Dewi Sant lle bu’n dysgu er deng mlynedd, a bydd yn cychwyn fel Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Ionawr 2021.

 

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811