Gwyneth Lewis oedd Bardd Cenedlaethol Cymru o 2005-06. Hi yw creawdwr y geiriau ar flaen adeilad anferthol Canolfan y Mileniwm. Ei chyhoeddiad mwyaf diweddar yw cyfieithiad, ar y cyd â Rowan Williams, o The Book of Taliesin (Penguin Classics, 2019).
Cwrs Blasu Digidol: Barddoniaeth
12.00 – 1.30 pm dydd Gwener 26 Mawrth 2021
Ymunwch â Chyn Fardd Cenedlaethol Cymru, Gwyneth Lewis, i edrych ar esgyrn ysgrifennu barddoniaeth. Falle eich bod yn newydd sbon i’r grefft, neu yn dychwelyd wedi hoe – neu efallai eich bod yn fardd profiadol eich hun yn chwilio am ysbrydoliaeth. Bydd y gweithdy yn rhoi trosolwg sydyn o sut i fynd ati i droi eich syniadau a thameidiau bach o’r awen yn ysgrifen ar bapur. Bydd y cwrs ei hun yn para awr, ond mae amser wedi ei neilltuo er mwyn croesawu pawb ar y cychwyn ac i holi cwestiynau a sgwrsio ar y diwedd.
Bydd cyrsiau blasu Tŷ Newydd yn ymweld â sawl pwnc a genre gwahanol yn y Gymraeg a’r Saesneg, i’ch annog i gychwyn, neu barhau, â’ch ysgrifennu creadigol yn ystod y cloi mawr. Bydd y niferoedd ar gyfer pob cwrs blasu’n cael eu cyfyngu i 16, a caiff y cwrs ei gynnal dros y platfform fideo Zoom. Gobeithio y cewch flas ar y cwrs, ac y cawn eich croesawu i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy ar gwrs hwy pan fydd hi’n ddiogel i ail-agor.
Noder os gwelwch yn dda mai cwrs drwy gyfrwng y Saesneg fydd hwn.
Nod Llenyddiaeth Cymru yw galluogi pawb fyddai’n elwa o fynychu un o gyrsiau Tŷ Newydd i wneud hynny, beth bynnag fo’u incwm neu lefel o brofiad, ac mae awduron ar incwm isel wedi eu adnabod gan Llenyddiaeth Cymru fel un o dair nodwedd penodol y bydd Llenyddiaeth Cymru yn canolbwyntio arnynt gyda’n gwaith. Felly, os na fedrwch fforddio ffi y cwrs, peidiwch oedi cysylltu i holi am le am ddim sydd wedi eu neilltuo i’r pwrpas hwn. Noder os gwelwch yn dda y byddwn ni fel arfer yn derbyn nifer fawr o geisiadau, ac er y byddwn yn ceisio ein gorau glas – yn anffodus ni allwn addo lle am i ddim i bawb fydd yn cysylltu.
Tiwtor
