Richard Owain Roberts yw awdur Hello Friend We Missed You (Parthian Books, 2020), enillydd Gwobr Not the Booker Prize The Guardian 2020, ac a ddisgrifiwyd gan Sam Jordison o The Guardian fel “Ffurfiol o fentrus, doniol iawn, a pherl y rhestr fer”. Cyhoeddwyd llyfr cyntaf Richard, casgliad o straeon byrion o’r enw All the Places We Lived yn 2015 gan Parthian Books ac yn ddiweddarach fe’i cyfieithwyd i’r iaith Serbeg. Bydd taith Richard i Serbia i hybu’r llyfr yn sail i ffilm ddogfen hir a gyhoeddir yn fuan dan y teitl ULTRA. Wedi ei eni a’i fagu ar Ynys Môn, mae Richard bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i deulu.
Cwrs Blasu Digidol: Cychwyn o’r Cychwyn
12.00 pm hanner dydd – 1.30 pm
Ymunwch ag awdur Hello Friend We Missed You, enillydd Gwobr Not The Booker Prize The Guardian 2020, Richard Owain Roberts, i ddysgu sut i ysgrifennu’r cychwyn perffaith i’ch nofel. Byddwn yn edrych ar eich pennod gyntaf, a sut i fynnu sylw’r darllenydd o’r cychwyn cyntaf un. Bydd y bennod gyntaf yn gosod templed a naws ar gyfer gweddill y llyfr, a bydd Richard yn rhannu cyngor ynglŷn â sut i sicrhau y bydd eich darllenydd yn gafael yn y stori ac yn gwrthod gollwng gafael ar y llyfr tan y dudalen olaf. Bydd y gweithdy ei hun yn para awr, ond mae amser wedi ei neilltuo er mwyn croesawu pawb ar y cychwyn ac i holi cwestiynau a sgwrsio ar y diwedd.
Bydd cyrsiau blasu Tŷ Newydd yn ymweld â sawl pwnc a genre gwahanol yn y Gymraeg a’r Saesneg, i’ch annog i gychwyn, neu barhau, â’ch ysgrifennu creadigol yn ystod misoedd y gaeaf. Bydd y niferoedd ar gyfer pob cwrs blasu’n cael eu cyfyngu i 16, a caiff y cwrs ei gynnal dros y platfform fideo Zoom. Gobeithio y cewch flas ar y cwrs, ac y cawn eich croesawu i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy ar gwrs hwy pan fydd hi’n ddiogel i ail-agor.
Noder os gwelwch yn dda mai cwrs drwy gyfrwng y Saesneg fydd hwn.
Nod Llenyddiaeth Cymru yw galluogi pawb fyddai’n elwa o fynychu un o gyrsiau Tŷ Newydd i wneud hynny, beth bynnag fo’u incwm neu lefel o brofiad, ac mae awduron ar incwm isel wedi eu adnabod gan Llenyddiaeth Cymru fel un o dair nodwedd penodol y bydd Llenyddiaeth Cymru yn canolbwyntio arnynt gyda’n gwaith. Felly, os na fedrwch fforddio ffi y cwrs, peidiwch oedi cysylltu i holi am le am ddim sydd wedi eu neilltuo i’r pwrpas hwn. Noder os gwelwch yn dda y byddwn ni fel arfer yn derbyn nifer fawr o geisiadau, ac er y byddwn yn ceisio ein gorau glas – yn anffodus ni allwn addo lle am i ddim i bawb fydd yn cysylltu.
Tiwtor
