Awdur a sgriptiwr o Fangor yw Elidir Jones, sydd bellach yn byw ym Mhontypridd. Cafodd ei nofel gyntaf, Y Porthwll (Dalen Newydd), ei chyhoeddi yn 2015. Yn 2019, dechreuodd ganolbwyntio ar ysgrifennu i bobl ifanc gyda chyhoeddiad Yr Horwth, y cyntaf mewn cyfres o nofelau ffantasi, Chwedlau’r Copa Coch (Atebol). Aeth ymlaen i ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020 yn y categori Plant a Phobl Ifanc. Mae’r ail yn y gyfres, Melltith yn y Mynydd, i’w chyhoeddi ar ddechrau 2021. Yn yr haf, bydd cyfres newydd o lyfrau arswyd, Hen Hunllefau (Broga), yn cychwyn gyda’r gyfrol Sgrech y Creigiau.
Llun: Delyth Badder