Tŷ Newydd is a magical place of words and friendships, the sound of the sea and the sight of blooming flowers. You can look down the garden, through the hole in the hedge and see the billowing sea, or else the next line of a poem, hanging there, waiting to be picked.
Cwrs Olwen
Bydd ein cwrs blynyddol i lenorion ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg yn dychwelyd eto eleni, gyda gofod yn rhad ac am ddim yn cael ei gynnig i enillwyr (y rhai fydd yn cipio’r gwobrau cyntaf, ail a thrydydd) prif gystadlaethau llenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd. Am gyfle i ennill lle ar Gwrs Olwen, cofiwch gystadlu cyn 1 Mawrth 2023: cewch afael ar y rhestr destunau yma.
Trefnir y cwrs hwn gyda chefnogaeth Eisteddfod yr Urdd, ac er cof annwyl am ein cydweithwraig Olwen Dafydd oedd yn ymhyfrydu bob blwyddyn yng nghwmni llenorion ifanc yr Urdd.