Ganwyd Siôn Aled ym Mangor a graddiodd mewn Cymraeg, Diwinyddiaeth a Dwyieithrwydd, gyda Doethuriaethau mewn Diwinyddiaeth ac Addysg Ddwyieithog. Bu’n byw ac yn gweithio yng Nghymru, Lloegr, yr Alban ac Awstralia. Ar hyn o bryd, mae’n Diwtor mewn Diwinyddiaeth Gymreig yn Athrofa Padarn Sant. Mae Siôn yn barddoni ac yn perfformio cerddi mewn Cymraeg a Saesneg (a thipyn bach o Ladin!) ac wedi ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu’n cyfrannu cerddi helaeth ar bynciau’r dydd i’r Gweplyfr, a chyhoeddodd ei gyfrol ddiweddaraf Rhwng Pla a Phla / Between the Plagues, ar y cyd â’r arlunydd Iwan Bala, yn 2021.
Defnyddio Lle fel Ysbrydoliaeth
Cynhelir y cwrs hwn fel rhan o brosiect Llwybr Cadfan Sant dan nawdd cynllun Llan, Esgobaeth Bangor. Mae hyn yn ein galluogi i’w gynnig am bris gostyngol.
Weithiau mae angen gadael caethiwed pedair wal i chwilio am ysbrydoliaeth. Dewch am dro efo Siôn Aled a Sian Northey, dau fardd preswyl prosiect Llwybr Cadfan, i eglwys Ynys Cynhaearn. Cawn gerdded o bentref Pentrefelin i’r lleoliad diddorol hwn a fu unwaith yn ynys, ystyried hanes yr eglwys gan gynnwys bywydau rhai megis Jac Ystumllyn (Jac Blac) a Dafydd y Garreg Wen sydd wedi’u claddu yn y fynwent, a phrofi naws ysbrydol arbennig hen fan o addoliad. Yna, byddwn yn dychwelyd i Dŷ Newydd i gael cinio ac i ddefnyddio’r eglwys fel sbardun i ysgrifennu cerdd neu ddarn o ryddiaith.
Mae croeso i feirdd ac awduron profiadol a dibrofiad, ac mae croeso arbennig i siaradwyr newydd (lefelau Uwch, Meistroli a Gloywi).
Byddwn yn ymgynnull yn Nhŷ Newydd am 10 o’r gloch, ac ar ôl paned a chyflwyniad byr, yn rhannu ceir i fynd i Bentrefelin. Gwisgwch yn addas ar gyfer tro byr (cysylltwch os yw cerdded yn broblem – mae posib mynd â char at yr eglwys).
Mae ein cyrsiau undydd yn addas i unigolion sydd heb brofiad o gwbl yn y byd ysgrifennu creadigol, ac i’r rheiny sydd eisoes â pheth profiad. Mewn awyrgylch groesawgar, gynnes, bydd cyfle i chi ddysgu gan diwtoriaid sydd yn arbenigwyr yn eu maes. Mae croeso i’r chwilfrydig, ac i’r rheiny sydd yn edrych am ddiwrnod o hwyl ac am gael dysgu rhywbeth newydd. Os am drafod os yw’r cwrs hwn, neu unrhyw un o gyrsiau rhaglen 2023 yn addas i chi, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol.
Bydd te, coffi a melysion ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.
Tiwtoriaid

Siôn Aled

Sian Northey
Mae Sian Northey yn fardd, awdur, cyfieithydd a golygydd llawrydd ac yn cynnal gweithdai ysgrifennu creadigol gydag oedolion a phlant. Ei chyfrol ddiweddaraf yw Cylchoedd (Gwasg y Bwthyn, 2020), cyfrol o straeon byrion ar y cyd â'r ffotograffydd Iestyn Hughes, a hi hefyd oedd cyd-olygydd y flodeugerdd ddwyieithog A470 (Arachne Press, 2022).