Dosbarth Meistr Barddoniaeth y Gwanwyn

Llu 22 Mai 2023 - Sad 27 Mai 2023
Tiwtoriaid / Gillian Clarke & Carol Ann Duffy
Darllenydd Gwadd / Imtiaz Dharker
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Barddoniaeth
Iaith / Saesneg

Dan arweiniad cyn-Fardd Cenedlaethol Cymru a chyn-Fardd Llawryfog (Poet Laureate) Ynysoedd Prydain, mae’r dosbarth meistr hwn wedi ei anelu at feirdd ymroddedig sydd yn edrych i ddatblygu eu crefft ymhellach. Bydd yr wythnos yn cynnwys gweithdy grŵp bob bore i sbarduno cerddi newydd, amser i ysgrifennu’n unigol, a phrynhawniau rhydd i ddarllen neu chwilio am ysbrydoliaeth yn nhirwedd brydferth Tŷ Newydd a’r ardal. Byddwch yn mwynhau dwy noson o ddarlleniadau barddoniaeth: un gan y tiwtoriaid, a’r llall gan ddarllenydd gwadd a bydd y cwrs yn dod i ben gyda chreu blodeugerdd o waith y beirdd a’r tiwtoriaid, a dathliad yn y llyfrgell fin nos o’r gwaith fydd wedi ei gyfansoddi. Cwrs fydd hwn i herio ac ysbrydoli awduron sy’n awyddus i ddatblygu arddull, telynegiaeth a phosibiliadau dychmygus eu barddoniaeth.

Tiwtoriaid

Gillian Clarke

Gillian Clarke oedd Bardd Cenedlaethol Cymru 2008-2016, a dyfarnwyd iddi Fedal Aur y Frenhines am Farddoniaeth yn 2010. Mae rhai o’i chasgliadau diweddar yn cynnwys Selected Poems, a gyhoeddwyd gan Picador yn 2016, Zoology, ei nawfed casgliad gan Carcanet yn 2017, a Roots Home, ysgrifau a myfyrdodau gan Carcanet yn Chwefror 2021. Cyhoeddwyd ei fersiwn o gerdd Aneirin o’r 7fed ganrif, Y Gododdin, fel testun dwyieithog gan Faber ym mis Mai 2021. Mae casgliad o gerddi, The Silence, ar y gweill ganddi 

Carol Ann Duffy

Carol Ann Duffy yw Cyfarwyddwr Creadigol Ysgol Ysgrifennu Prifysgol Metropolitan Manceinion. Cyhoeddwyd ei New and Collected Poems for Children yn 2010 gan Faber a Collected Poems yn 2015 gan Picador. Ei chasgliad diweddaraf yw Sincerity (Picador, 2018). Yn 2005, enillodd wobr T.S. Eliot gyda Rapture (Picador, 2006). Bu’n Fardd Llawryfog (Poet Laureate) am ddeng mlynedd rhwng 2009-2019. 

Darllenydd Gwadd

Imtiaz Dharker

Bardd, artist a gwneuthurwr ffilmiau dogfen yw Imtiaz Dharker. Dyfarnwyd iddi Fedal Aur y Frenhines am Farddoniaeth yn 2014, ac mae ei chasgliadau yn cynnwys The terrorist at my table (2006), Over the Moon (2014) a’r diweddaraf, Luck is the Hook (2018) oll wedi eu cyhoeddi gan Bloodaxe Books. Mae Imtiaz wedi bod yn Fardd Preswyl yn Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt ar gyfer prosiect barddoniaeth Thresholds, ac yn ddiweddar wedi cwblhau cyfres o gerddi wedi eu hysbrydoli gan archifau Eglwys Gadeiriol St Paul’s. Mae hi wedi cael deg arddangosfa unigol o ddarluniau; ac y mae hi hefyd yn sgriptio ac yn cyfarwyddo ffilmiau, sawl un ar gyfer sefydliadau anllywodraethol yn India, mewn ardaloedd o loches, addysg a iechyd ar gyfer merched a phlant.

www.imtiazdharker.com

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811