Dysgu Ysgrifennu Creadigol i Eraill: Ysbrydoli, ymgysylltu, ysgogi

Gwe 9 Mai 2025 - Sul 11 Mai 2025
Tiwtor / Cecilia Knapp
Darllenydd Gwadd / Ashley Hickson-Lovence (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £300 - £400 y pen
Genre / aml-genre
Iaith / Saesneg

Sut ydych chi’n ysbrydoli cariad at eiriau mewn eraill? Sut ydych chi’n defnyddio’ch creadigrwydd i annog pobl eraill i ymgysylltu â llenyddiaeth? Sut gall addysgu ysgrifennu creadigol wneud i chi fyfyrio ar eich arfer creadigol eich hun?

Nod y cwrs preswyl penwythnos arbennig hwn yw eich galluogi i wella eich sgiliau fel hwylusydd ysgrifennu creadigol a chynnig technegau a dulliau gweithredu ichi gallu ymgysylltu ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd. Bydd y cwrs hefyd yn gyfle i chi ddeall sut i fireinio eich creadigrwydd eich hun wrth i chi ystyried ymarferoldeb tiwtora ac ysbrydoli grŵp mewn awyrgylch diogel, meithringar a chreadigol.

Ymunwch â’r bardd uchel ei pharch a hwylusydd ysgrifennu creadigol profiadol, Cecilia Knapp, wrth iddi drafod y sylfeini o addysgu’n greadigol a rhannu dulliau y gallwch eu defnyddio yn eich gweithdai a’ch ymarfer eich hun. Bydd y cyn-athro, sydd bellach yn ddarlithydd prifysgol, Ashley Hickson-Lovence yn ymuno â chi hefyd am ddarlleniad bywiog arlein. Bydd yna gyfuniad o sesiynau grŵp a fydd yn cynnwys trafodaethau agored, a chyfres o ysgogiadau ysgrifennu creadigol – lle byddwch yn magu’r hyder a’r sgiliau sydd eu hangen i’ch helpu i ddylunio a chyflwyno gweithdai ysgrifennu creadigol effeithiol a dylanwadol.

Tiwtor

Cecilia Knapp

Mae Cecilia Knapp yn fardd a nofelydd, a hi oedd Young People’s Laureate for London 2020/2021. Cyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Forward yn 2022 am y gerdd unigol orau. Enillodd Wobr Ruth Rendell yn 2021 ac mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Rebecca Swift i Ferched. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth, Peach Pig, gan Corsair yn 2022 a roedd yn lyfr barddoniaeth y mis gan yr Observer. Mae ei cherddi wedi ymddangos yn The Financial Times, Granta a The White Review. Hi fu’n curadu’r flodeugerdd Everything is Going to be Alright: Poems for When You Really Need Them, a gyhoeddwyd gan Trapeze yn 2021. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf Little Boxes gan The Borough Press (2023). Yn 2023, roedd Little Boxes ar restr hir Gwobr Nofel Gyntaf Orau The Authors Club. Mae'n dysgu ysgrifennu creadigol yn City Lit, y Roundhouse ac mewn sawl ysgol uwchradd yn Llundain.

Darllenydd Gwadd

Ashley Hickson-Lovence (Digidol)

Mae Ashley Hickson-Lovence yn fardd, nofelydd a darlithydd prifysgol gyda PhD mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol East Anglia. Ef yw awdur The 392 (OWN IT!, 2019), Your Show (Faber, 2022) - a oedd ar restr hir Gwobr Gordon Burn ac ar restr fer Gwobrau Llyfrau East Anglia - a Wild East (Penguin, 2024), nofel ar ffurf barddoniaeth i oedolion ifanc. Ar hyn o bryd mae’n golygu ei nofel ddiweddaraf About to Fall Apart a’i gasgliad cyntaf o farddoniaeth Why I Am Not a Bus Driver. Magwyd yn Llundain ond mae bellach yn byw yn Norwich.

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811