Bardd Americanaidd-Gymreig yw Zoë Brigley sydd wedi cyhoeddi tair cyfrol o farddoniaeth gyda Bloodaxe, yn fwyaf diweddar yn 2019 gyda Hand & Skull. Ymysg ei chyfrolau byrion eraill y mae Aubade After a French Movie (Broken Sleep Books, 2020) a Into Eros (Verve, 2021). Ar y cyd â Kristian Evans, hi yw golygydd y flodeugerdd 100 Poems to Save the Earth (Seren, 2021). Cyhoeddwyd ei chyfrol o ysgrifau, Notes from A Swing State: Writing from Wales and America, gan Parthian yn 2019. Mae hi’n gweithio ym Mhrifysgol Talaith Ohio, a hi yw Golygydd cylchgrawn Poetry Wales.
Encil: Barddoniaeth a’r Blaned
Oes gennych chi ddyddiad cau’n nesáu, neu falle eich bod chi’n awyddus i ddianc rhag prysurdeb bywyd bob dydd am gyfnod? Mae ein hencilion yn darparu amser a gofod i chi ysgrifennu, darllen ac ymlacio – a bydd eich prydau bwyd oll yn cael eu darparu gan ein cogydd preswyl profiadol. Wedi ei leoli mewn man heddychlon yng nghefn gwlad ar gyrion Llanystumdwy, cewch ysbrydoliaeth o’r olygfa odidog o’r ardd o Fae Ceredigion, mwynhau prydau bwyd gyda’ch cyd breswylwyr, neu eistedd ag ymlacio yn ein llyfrgell glyd.
Mae’r Ganolfan o fewn pellter cerdded i’r traeth a glan Afon Dwyfor, a cewch fwynhau milltiroedd o deithiau cerdded drwy’r coed wedi eich amgylchynu gan fywyd gwyllt a phrydferthwch natur. Mae Tafarn y Plu hefyd o fewn tafliad carreg, lle gewch bob amser groeso cynnes. Bydd pawb â’i ystafell ei hun ar ein encilion, a cewch ddewis eich ystafell wrth archebu eich lle. Bydd aelodau staff Llenyddiaeth Cymru ar gael drwy’r wythnos i gynnig cyngor ac arweiniad ar gyfleoedd i ddatblygu eich ysgrifennu.
Tiwtoriaid

Zoë Brigley

Kristian Evans
Bardd, awdur ysgrifau a golygydd o Gynffig, Pen-y-Bont ar Ogwr, yw Kristian Evans. Mae wedi ei gyfareddu gan y byd naturiol ers yn ifanc, yn benodol y ffordd y mae’n siapio ein dychymyg ni fel pobl. Mae hefyd yn ymddiddori mewn hud a lledrith traddodiadol ag animistiaeth, neu y byd ysbrydol. Mae ar hyn o bryd yn ymchwilio i lyfrau nodiadau Coleridge, a’r ffordd yr oedd ei arsylwadau manwl a gofalus o’r byd o’i gwmpas yn llywio ei farddoniaeth, a’i fyfyrdodau athronyddol ar greadigrwydd a’r berthynas rhwng pobl a byd natur.