Tŷ Newydd is a magical place of words and friendships, the sound of the sea and the sight of blooming flowers. You can look down the garden, through the hole in the hedge and see the billowing sea, or else the next line of a poem, hanging there, waiting to be picked.
Encil Calan Gaeaf
Dyma gyfle i awduron ymgynnull draw yng nghartref awduron Cymru, Tŷ Newydd, i fwynhau encil YSBRYDoledig drwy gyfrwng y Gymraeg dros hanner tymor yr hydref a chyfnod Calan Gaeaf.
Efallai eich bod yn gweithio i gyrraedd dyddiad cau un o gystadlaethau’r Eisteddfod, neu derfyn amser sydd wedi ei osod ar eich cyfer gan eich golygydd. Ynte ydych chi yn awyddus i gychwyn darn newydd sbon o waith, ac yn chwilio am ysbrydoliaeth yn awyrgylch arbennig Tŷ Newydd a’r ardal neu yn gobeithio derbyn cyngor gan eich cyd-awduron? Yn ystod eich arhosiad, cewch encilio i dawelwch eich ystafell i ganolbwyntio ar eich gwaith ar y gweill, mwynhau rhwydweithio a chymdeithasu dros brydau bwyd cartref, a dod ynghyd am sgwrs yn llyfrgell enwog Tŷ Newydd fin nos.
I’r rheiny ohonoch sydd heb ymweld â ni o’r blaen, mae’r Ganolfan o fewn pum munud o lannau Afon Dwyfor ac 20 munud ar droed o’r traeth, a cewch fwynhau milltiroedd o deithiau cerdded drwy’r coed, neu ar hyd yr arfordir os mai hynny sy’n mynd â’ch bryd. Mae Tafarn y Plu hefyd o fewn tafliad carreg, lle gewch bob amser groeso cynnes.
Bydd pawb â’i ystafell ei hun ar ein encilion, a cewch ddewis eich ystafell wrth archebu eich lle. Bydd aelodau staff Llenyddiaeth Cymru ar gael drwy’r wythnos i gynnig cyngor ac arweiniad ar gyfleoedd i ddatblygu eich ysgrifennu. Bydd eich holl brydau bwyd yn cael eu darparu yn ystod eich arhosiad gan ein cogydd preswyl, yn cynnwys danteithion tymhorol rhwng prydau. Cewch ddewis ymuno â ni am yr encil bum noson llawn, neu ymuno am gyfnod byrrach – mae manylion am brisiau i’w canfod isod.
Yn ystod yr encil hwn, bydd ambell weithdy neu sgwrs gan awduron ac arbenigwyr gwadd yn cael eu trefnu i gynnig arweiniad ar eich gwaith ysgrifennu, ac adloniant ysbrydol i godi gwallt eich pen. Bydd amserlen o’r gweithgareddau opsiynol yma ar gael i chi o flaen llaw, fel y gallwch drefnu eich encil.
Prisiau
Mae eich ystafell, eich holl brydau bwyd yn cynnwys danteithion, gweithdai a sgyrsiau yn gynwysedig yn y pris. Cewch gyrraedd ar ôl 3.00 pm ar eich diwrnod cyntaf, a gadael ar ôl brecwast ar eich bore olaf.
Ystafell fach (neu pris y pen os oes dau berson yn rhannu ystafell fawr)
2 noson: £150
3 noson: £210
4 noson: £260
5 noson: £300
Ystafell ganolig
2 noson: £170
3 noson: £240
4 noson: £300
5 noson: £350
Ystafell fawr
2 noson: £190
3 noson: £270
4 noson: £340
5 noson: £400