Encil Poetry London: Golygu a Chyflwyno Cerddi

Llu 4 Mawrth 2024 - Sad 9 Mawrth 2024
Tiwtor / André Naffis-Sahely
Darllenydd Gwadd / Mona Kareem (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £625 - £725 y pen
Genre / Barddoniaeth
Iaith / Saesneg

Oes gennych chi ddyddiad cau’n nesáu, neu gasgliad o gerddi a dim syniad beth i’w wneud â nhw, neu falle eich bod chi’n awyddus i ddianc rhag prysurdeb bywyd bob dydd am gyfnod? Mae ein hencilion yn darparu amser a gofod i chi ysgrifennu, darllen ac ymlacio – a bydd eich prydau bwyd oll yn cael eu darparu gan ein cogydd preswyl profiadol. Wedi ei leoli mewn man heddychlon yng nghefn gwlad ar gyrion Llanystumdwy, cewch ysbrydoliaeth o’r olygfa odidog o’r ardd o Fae Ceredigion, mwynhau prydau bwyd gyda’ch cyd breswylwyr, neu eistedd ag ymlacio yn ein llyfrgell glyd.

Mae’r Ganolfan o fewn pellter cerdded i’r traeth a glannau Afon Dwyfor, a chewch fwynhau milltiroedd o deithiau cerdded drwy’r coed wedi eich amgylchynu gan fywyd gwyllt a phrydferthwch natur. Mae Tafarn y Plu hefyd o fewn tafliad carreg, lle gewch bob amser groeso cynnes. Bydd pawb â’i ystafell ei hun ar ein hencilion, a chewch ddewis eich ystafell wrth archebu eich lle. Bydd aelodau staff Llenyddiaeth Cymru ar gael drwy’r wythnos i gynnig cyngor ac arweiniad ar gyfleoedd i ddatblygu eich ysgrifennu.

Yn ystod yr encil hwn, bydd golygydd Poetry London, André Naffis-Sahely, yn bresennol fel awdur a golygydd preswyl. Bydd André yn rhedeg gweithdai grŵp ynglŷn â sut i olygu eich cerddi, ysgrifennu llythyron cais i gyd fynd â’ch gwaith, ysgrifennu crynodebau o’ch llyfr neu bamffled, a rhoi cyngor ar sut i gynnig eich gwaith i gylchgronau a chyhoeddwyr. Bydd André hefyd ar gael am gyfarfodydd un-i-un byr gyda phob awdur i drafod eich gwaith, a byddwn yn eich gwahodd i yrru ambell gerdd o’ch gwaith iddo o flaen llaw, cyn dechrau’r encil. Byddwn hefyd yn cael cwmni Mona Kareem fel darllenydd gwadd ar Zoom un noson, i fwynhau darlleniad barddoniaeth a chyfle i holi cwestiynau am ei thaith fel awdur.

Ar ein hencilion, gallwch ddewis eich ystafell o flaen llaw. Rydym yn cynnig ystod o ystafelloedd gwahanol, oll yn amrywio o ran pris a hygyrchedd. Holwch wrth archebu am ragor o fanylion am yr ystafelloedd. Bydd croeso i westeion gyrraedd ar ôl cinio ar y dydd Llun, a gadael ar ôl brecwast ar y dydd Sadwrn.

Tiwtor

André Naffis-Sahely

Mae André Naffis-Sahely yn awdur dau gasgliad o farddoniaeth, The Promised Land: Poems from Itinerant Life (Penguin UK, 2017) a High Desert (Bloodaxe Books, 2022). Ef yw golygydd The Heart of a Stranger: An Anthology of Exile Literature (Pushkin Press, 2020). Mae wedi cyfieithu dros ugain o deitlau ffuglen, barddoniaeth a ffeithiol greadigol, gan gynnwys gweithiau gan Honoré de Balzac, Émile Zola, Abdellatif Laâbi, Ribka Sibhatu a Tahar Ben Jelloun. Mae ei waith ysgrifennu yn ymddangos yn gyson ar dudalennau The Times Literary Supplement, The Baffler a Poetry (Chicago), ymhlith eraill. Ef yw golygydd Poetry London. 

Darllenydd Gwadd

Mona Kareem (Digidol)

Mae Mona Kareem yn ysgolhaig llenyddol ac yn gyfieithydd (Arabaidd / Saesneg). Mae hi’n awdur tair cyfrol o farddoniaeth yn ogystal ag I Will Not Fold These Maps, a gyfieithwyd gan Sara Elkamel (Poetry Translation Centre, 2022). Derbyniodd grant llenyddol yn 2021 gan y National Endowment for the Arts a mae hi wedi dal cymrodoriaeth a phreswyliadau ym Mhrifysgol Princeton, Prifysgol Tufts, Prifysgol Brandeis, Poetry International, yr Arab-American National Museum, Norwich Centre, Bard College a Forum Transregionale Studien. Mae ei gweithiau wedi’u cyfieithu i naw o ieithoedd ac wedi ymddangos mewn sawl cyhoeddiad gan gynnwys Poetry London, The Los Angeles Review of BooksSpecimen. Mae gan Mona Ddoethuriaeth mewn Llenyddiaeth Gymharol o Brifysgol Talaith Efrog Newydd ym Minghamton. Mae ei chyfieithiadau yn cynnwys Instructions Within gan Ashraf Fayadh (a enwebwyd ar gyfer Gwobr BTBA), Except for this Unseen Thread gan Ra’ad Abdulqadir a Kindred gan Octavia Butler.

 

 

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811